Y Gwasanaeth Gwrando ar Gyflenwyr

Croeso i'r Gwasanaeth Gwrando ar Gyflenwyr

Nodwch, cyn gwneud ymholiad i’r Gwasanaeth Gwrando ar Gyflenwyr, rydym yn argymell eich bod yn gyntaf yn trafod unrhyw bryderon am gaffael neu gontractau â’r awdurdod contractio cysylltiedig. Darllenwch y cyfyngiadau i’r gwasanaeth a chytuno â’r datganiadau: Cyfyngiadau: Mae’n rhaid bod yr achos yn ymwneud â gweithgareddau caffael a gyflawnwyd gan gorff cyhoeddus yng Nghymru y mae ei swyddogaethau wedi’u datganoli’n gyfan gwbl neu’n rhannol i Gymru. Mae’n rhaid bod eich mater neu’ch pryder wedi codi yn ystod y 12 mis diwethaf. Ni ddylai’r ymarfer caffael fod o fewn y cyfnod Segur gorfodol. Ni ddylai’r mater fod yn gysylltiedig â methu talu. Ni ddylai’r mater fod yn destun unrhyw achos ffurfiol na chyfreithiol (sy’n cynnwys anfon llythyr cyn camau cyfreithiol). Os ydym yn ymchwilio i fater ar eich rhan, mae’n rhaid ichi ein hysbysu ar unwaith os dechreuir camau cyfreithiol. Ni ddylai’r mater fod yn destun unrhyw ymchwiliad sydd yn yr arfaeth, yn mynd rhagddo neu wedi’i gwblhau gan gorff â phwerau i ymchwilio i gwynion, er enghraifft ombwdsmon neu gorff statudol arall. Ni fydd y Gwasanaeth Gwrando ar Gyflenwyr yn ymateb i geisiadau am wybodaeth am ymarferion caffael neu gontractau / fframweithiau penodol, er enghraifft, i ofyn i bwy y mae contract wedi cael ei ddyfarnu. Dylai’r rhain gael eu cyfeirio at yr awdurdod contractio perthnasol.
 

Rwy'n cadarnhau nad yw unrhyw faterion yr wyf yn eu disgrifio yn destun unrhyw achos cyfreithiol nac ymchwiliad, sydd naill ai wedi eu cychwyn neu sydd o dan ystyriaeth, a byddaf yn rhoi gwybod i'r Gwasanaeth os caiff achos cyfreithiol neu ymchwiliad ar wahân ei gychwyn. 

Rwy'n cydnabod na ellir dibynnu ar unrhyw ganlyniad ysgrifenedig fel cyngor neu dystiolaeth gyfreithiol os bydd y mater a ddisgrifir yn destun ymchwiliad gan y Gwasanaeth.
 
Rwy'n cydnabod nad her ffurfiol i broses gaffael fydd y ffaith bod y ffurflen hon yn cael ei chyflwyno, ac na chaiff ei ystyried felly. *