Diolch i chi am ymateb i'n hymgynghoriad ar ddiogelu telerau marchnata ar gyfer cerbydau awtomataidd (hunan-yrru) awdurdodedig. 

Y dyddiad cau yw 1 Medi 2025. 

Gweld yr holl gwestiynau

Mae'r arolwg hwn yn darparu cwestiynau yn seiliedig ar ddewis y defnyddiwr, mae trosolwg o'r cwestiynau ar gael [yn agor mewn ffenestr newydd].

Printio neu gadw copi o'ch ymateb

Ar ddiwedd yr holiadur hwn, mae gennych gyfle i naill ai printio neu gadw copi o'ch ymateb ar gyfer eich cofnodion. Mae'r opsiwn hwn yn ymddangos ar ôl i chi wasgu 'Cyflwyno'ch ymateb'.

Opsiwn cadw a pharhau

Mae gennych opsiwn i 'gadw a pharhau' â'ch ymateb ar unrhyw adeg. Os gwnewch hynny, anfonir dolen atoch drwy e-bost i ganiatáu i chi barhau â'ch ymateb lle gwnaethoch chi adael.

 

Mae'n bwysig iawn eich bod yn nodi'ch cyfeiriad e-bost cywir os dewiswch gadw a pharhau. Os gwnewch gamgymeriad yn y cyfeiriad e-bost, ni fyddwch yn derbyn y ddolen sydd ei hangen arnoch i gwblhau'ch ymateb.

Datganiad hygyrchedd

Darllen ein datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni SmartSurvey [yn agor mewn ffenestr newydd].

Cyfrinachedd a diogelu data

Mae'r Adran Drafnidiaeth (DfT) yn cynnal yr ymgynghoriad hwn ar ddiogelu termau marchnata ar gyfer cerbydau awtomataidd (hunan-yrru) awdurdodedig.

 

Gweler ein ffurflen ar-lein DfT a'n hysbysiad preifatrwydd arolwg [yn agor mewn ffenestr newydd] i gael ragor o wybodaeth am sut mae eich data personol yn cael ei brosesu mewn perthynas â'r arolwg hwn.

 

Yn ogystal, rydym yn gofyn:

  • ar gyfer y wlad rydych chi'n byw ynddi, i ystyried dulliau gyrru ac amgylcheddau'r wlad honno yn eich ymateb
  • a ydych chi'n gweithio a'r math o sefydliad neu sefydliadau rydych chi'n gweithio iddyn nhw, er mwyn deall eich perthynas â'r pwnc 

Peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol yn eich ymatebion oni bai y gofynnir yn benodol i chi wneud hynny.