Ymgynghoriad ar Nodyn Canllaw Cynllunio Dros Dro Tai Amlfeddiannaeth - Cynllun Datblygu Lleol Cyngor Sir y Fflint (CDLl)

 

Ffurflen Sylwadau Nodyn Canllaw Cynllunio Dros Dro Cyngor Sir y Fflint

 

Cafodd Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) Sir y Fflint ei fabwysiadu ar 24 Ionawr 2023 ac mae’n sail ar gyfer penderfynu ar geisiadau cynllunio yn y Sir ochr yn ochr â Chymru’r Dyfodol:  Y Cynllun Cenedlaethol 2040.  Ni all y CDLl roi’r holl gyngor manwl sydd ei angen i arwain cynigion datblygu. Felly, gall Canllawiau Cynllunio Dros Dro gefnogi’r CDLl drwy roi canllawiau mwy manwl ar amrywiaeth o bynciau a materion i gynorthwyo â dehongli a gweithredu polisïau a chynigion penodol. 


Mae’r Cyngor yn y broses o baratoi Nodyn Canllaw Cynllunio Dros Dro i roi cyngor a gwybodaeth ychwanegol am bolisïau penodol yn y CDLl.   Nid yw’r Nodyn Canllaw Dros Dro yn cynnwys yr un statws â pholisïau sydd wedi eu cynnwys yn y CDLl, ond mae’n ystyriaeth gynllunio faterol yn y broses gwneud penderfyniadau.  


Pwrpas y Nodyn Canllaw Cynllunio Dros Dro yw: 

  • cynorthwyo i baratoi cynigion cynllunio ac arwain trafodaethau cyn gwneud cais,
  • rhoi arweiniad i swyddogion wrth ymdrin â cheisiadau cynllunio, a rhoi arweiniad i Swyddogion a Chynghorwyr wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio,
  • cynorthwyo Arolygwyr i benderfynu ar apeliadau,
  • gwella ansawdd datblygiadau newydd, 
  • hwyluso dull cyson a thryloyw o ran gwneud penderfyniadau.

Gallwch chi ddod o hyd i’r CDLl a fabwysiadwyd ar wefan CSFf, https://www.flintshire.gov.uk/cy/Resident/Planning/Flintshire-Local-Development-Plan.aspx (yn agor mewn ffenest newydd) 

 

Gellir gweld tudalen ymgynghori CCA ar wefan CSFf https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Planning/Review-of-Supplementary-Planning-Guidance.aspx (yn agor mewn ffenestr newydd)

 

Anogir i chi gyflwyno eich sylwadau erbyn:

 

gan ddefnyddio’r ffurflen sylwadau arolwg; neu


anfon e-bost at developmentplans@flintshire.gov.uk ; neu


ei bostio i:
Andrew Farrow,
Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi)
Cyngor Sir y Fflint,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug, Sir y Fflint,
CH7 6NF 


Dylai'r holl sylwadau gael eu derbyn erbyn 5pm ar 10/10/2025

 

Dylid anfon unrhyw ymholiadau at developmentplans@flintshire.gov.uk neu ffonio 01352 703213

Datganiad Preifatrwydd / GDPR

 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu eich data personol yn rhan o’i dasg gyhoeddus a’i ddyletswydd statudol dan y Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.

 

Yn rhan o’r ymgynghoriad ar Nodiadau Canllaw Cynllunio Dros Dro mae’r Cyngor yn gofyn am sylwadau gan unrhyw un sydd â diddordeb, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai holl Nodiadau Canllaw Cynllunio Dros Dro gynnwys Datganiad o Ymgynghoriad a ddylai gynnwys yr holl sylwadau a gafwyd a dangos sut mae’r sylwadau hyn wedi arwain at newidiadau i’r ddogfen.   Felly, bydd crynodeb o’r sylwadau i gyd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor yn rhan o’r Nodyn Canllaw Cynllunio Dros Dro a fabwysiadwyd, pan fydd y Nodyn Canllaw Cynllunio Dros Dro wedi’i fabwysiadu, fodd bynnag, bydd y data personol i gyd yn cael ei ddileu o olwg y cyhoedd. 

 

Ni fydd eich data personol chi’n cael ei rannu gydag unrhyw un arall.   Bydd eich data personol chi’n cael ei gadw hyd nes bydd y Cyngor wedi llenwi a mabwysiadu’r Nodyn Canllaw Cynllunio Dros Dro yn ffurfiol a bydd yn cael ei ddileu ar ôl hynny.  

 

Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113. 

 

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan https://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx (yn agor mewn ffenestr newydd)

Ticiwch y blwch sy'n eich disgrifio chi orau *

 

Enw Cyntaf *

 

Cyfenw *

 

Teitl Swydd (os yw’n berthnasol)

 

Enw’r cwmni (os yw’n berthnasol)

 

Llinell 1 y cyfeiriad *

 

Llinell 2 y cyfeiriad *

 

Llinell 3 y cyfeiriad *

 

Llinell 4 y cyfeiriad

 

Llinell 5 y cyfeiriad

 

Cod Post *

 

E-bost

 

Rhif llinell dir

 

Rhif ffôn symudol

 

Ydych chi’n meddwl bod angen newidiadau i Nodyn Canllaw Cynllunio Dros Dro Tai Amlfeddiannaeth
  *