Dylid llenwi’r ffurflen hon i ategu newid i Drwydded Ddatblygu Rhywogaeth a gyhoeddwyd dan un ai:
  • Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017
  • Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
  • Deddf Gwarchod Moch Daear 1992
  • Gorchymyn Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019
Mae’r ffurflen hon yn ei gwneud yn bosibl trosglwyddo trwydded sydd eisoes mewn grym, ac a roddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, o'r trwyddedai sydd wedi’i enwi arni ar hyn o bryd i drwyddedai arall.

Mae'n rhaid iddi gael ei chwblhau gan y trwyddedai arfaethedig, a rhaid iddi gael ei llofnodi gan y trwyddedai arfaethedig a'r trwyddedai cyfredol er mwyn cadarnhau'r penodiad newydd.
Drwy lofnodi'r ffurflen hon, rydych yn nodi eich bod wedi darllen a deall y ffurflen gais a’r dogfennau atodol a gyflwynwyd er mwyn cael y drwydded, a’ch bod yn cytuno i lynu wrth yr amodau a amlinellwyd yn y drwydded.

Bydd y dogfennau a restrir isod wedi cael eu cyflwyno i'r corff adnoddau naturiol ar gyfer Cymru a elwir yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel rhan o'r cais gwreiddiol. You need to make yourself aware of the information contained within these documents before signing this form to become the new licensee.
  • Ffurflen gais.
  • Datganiad dull, gan gynnwys gwybodaeth am yr arolwg. Caiff y datganiad dull ei atodi fel amod trwydded i unrhyw drwydded a roddir.
  • Unrhyw wybodaeth ychwanegol. Bydd y wybodaeth hon wedi’i hamlinellu yn amod 3 ar y drwydded.
  • Ffurflen ymgynghori’r awdurdod cynllunio lleol. Os oedd angen cael caniatâd cynllunio fel rhan o’ch cais, bydd y ffurflen hon wedi'i chyflwyno fel rhan o'r cais.
  • Copi o unrhyw gydsyniadau eraill sydd wedi'u rhoi.
  • Bydd angen sicrhau bod geisiadau ar gyfer eglwysi yn cynnwys llythyr sydd wedi’i lofnodi gan y bwrdd cyfadran perthnasol ac sy’n cydsynio â'r gwaith arfaethedig.