Dylid llenwi’r ffurflen hon i ategu newid i drwydded a gyhoeddwyd dan un ai:
  • Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017
  • Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
  • Deddf Gwarchod Moch Daear 1992
  • Gorchymyn Rhywogaethau Goresgynnol Estron (Gorfodi a Thrwyddedu) 2019
Mae'r ffurflen hon yn ei gwneud yn bosibl trosglwyddo trwydded sy’n bodoli eisoes, a roddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, oddi wrth yr ecolegydd sydd wedi’i enwi ar y drwydded bresennol i ecolegydd arall. Rhaid iddi gael ei chwblhau gan yr ecolegydd arfaethedig, a rhaid i’r ecolegydd arfaethedig a'r trwyddedai ei llofnodi er mwyn cadarnhau'r penodiad newydd.

Bydd yr ecolegydd yn gweithredu ar ran yr ymgeisydd/trwyddedai a bydd yn gyfrifol am gyflawni elfennau penodol o unrhyw drwydded a roddir mewn perthynas â dal neu amharu ar y rhywogaeth(au), gan gynnwys  goruchwylio’r  gwaith o roi’r ardal dan waharddiad a mesurau lliniaru.
Drwy lofnodi'r ffurflen hon, rydych yn nodi eich bod wedi darllen a deall y ffurflen gais a’r dogfennau atodol a gyflwynwyd er mwyn cael y drwydded, a’ch bod yn cytuno i lynu wrth yr amodau a amlinellwyd yn y drwydded.

Bydd y dogfennau a restrir isod wedi cael eu cyflwyno i'r corff adnoddau naturiol ar gyfer Cymru a elwir yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fel rhan o'r cais gwreiddiol. Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y dogfennau hyn cyn llofnodi'r ffurflen hon ar gyfer eich pennu fel yr ecolegydd newydd.
  • Ffurflen gais.
  • Datganiad dull, gan gynnwys gwybodaeth am yr arolwg. Caiff y datganiad dull ei atodi fel amod trwydded i unrhyw drwydded a roddir.
  • Unrhyw wybodaeth ychwanegol. Bydd y wybodaeth hon wedi’i hamlinellu yn amod 3 ar y drwydded.
  • Ffurflen ymgynghori’r awdurdod cynllunio lleol. Os oedd angen cael caniatâd cynllunio fel rhan o’ch cais, bydd y ffurflen hon wedi'i chyflwyno fel rhan o'r cais.
  • Copi o unrhyw gydsyniadau eraill sydd wedi'u rhoi.
  • Bydd angen sicrhau bod geisiadau ar gyfer eglwysi yn cynnwys llythyr sydd wedi’i lofnodi gan y bwrdd cyfadran perthnasol ac sy’n cydsynio â'r gwaith arfaethedig.