Iaith:

Ymgynghoriad ar sut i fesur cynhwysiant ymfudwyr yng Nghymru

 

C1. Rydym yn bwriadu datblygu dull o fesur cynhwysiant yng nghyd-destun mudwyr drwy ddefnyddio'r rhannau gorau o Ddangosyddion Integreiddio'r Swyddfa Gartref (2019) a Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol Llywodraeth Cymru (2016). Ydych chi'n cytuno â'r dull cyffredinol hwn?

 

C2. Pa fesuriadau o'r Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol yn Atodiad 1 yw'r dangosyddion mwyaf hanfodol i'w cynnwys yn y fframwaith er mwyn monitro cynhwysiant mudwyr?

 

C3. Pa fesuriadau o'r Dangosyddion Integreiddio yn Atodiad 2 yw'r dangosyddion mwyaf priodol i'w cynnwys yn y fframwaith er mwyn monitro cynhwysiant?

 

C4. Ydych chi wedi nodi unrhyw rwystrau i fesur cynhwysiant mudwyr yn eich gwaith?

 

C5. Ydych chi wedi nodi unrhyw enghreifftiau o arfer dda yn eich gwaith chi (neu waith eraill) sy'n defnyddio cysyniadau mesur cynhwysiant mudwyr mewn cymunedau?

 

C6. Sut yr hoffech weld yr adnodd yn amlinellu dull o fesur cynhwysiant yn cael ei gyflwyno er mwyn sicrhau ei fod yn hawdd ei ddefnyddio?

Rhowch cymaint o fanylion â phosibl am yr ieithoedd, fformatau neu strwythurau gofynnol ar gyfer yr adnodd terfynol a fydd yn cefnogi eich gwaith. Er y byddem fel arfer yn creu dogfen ysgrifenedig rydym yn awyddus i glywed awgrymiadau ynghylch yr adnodd mwyaf effeithiol, yn cynnwys enghreifftiau o adnoddau tebyg a ddefnyddir mewn mannau eraill.

 

C7. Pa gymorth ychwanegol y byddai ei angen ar eich sefydliad fwy na thebyg i fesur cynhwysiant yng nghyd-destun mudwyr yn eich gwaith beunyddiol?
Ystyriwch a ellir nodi cyswllt â Llywodraeth Cymru, adnoddau, cyhoeddi setiau data penodol, strwythurau cydweithredol neu anghenion cymorth eraill. Eglurwch eich rhesymau dros nodi'r anghenion a ragwelir.

 

C8. Fel y gallwn ni, fel llywodraeth, wella argaeledd, cysondeb, cyflawnrwydd a defnyddioldeb data mudwyr a gesglir ac yr adroddir arnynt?

 

C9. Sut y gallwn wella parodrwydd mudwyr i roi eu gwybodaeth inni?

 

C10. Oes unrhyw opsiynau data/tystiolaeth arloesol y mae angen inni ymchwilio iddynt ymhellach, megis cyfleoedd cysylltu data newydd?

 

C11. A ddylai profiadau plant mudwyr i Gymru fod yn rhan o'n hadnodd terfynol?

 

C12. Hoffem gael eich barn am unrhyw effeithiau y byddai'r cynigion hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn enwedig ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol?