Iaith:

Fersiwn ddrafft o'r fframwaith trin camddefnyddio sylweddau a safonau ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer carchardai yng Nghymru

 

Cwestiwn 1: Ydych chi’n cytuno â strwythur a chynnwys y llwybr triniaeth glinigol a nodir ym Mhennod 2 o’r Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau – a’i ffocws ar asesu, gofal a thriniaeth ddilynol, a chymorth i bobl ar ôl gadael carchar – ar gyfer alcohol a chyffuriau?

 

Cwestiwn 2: Ydych chi’n cytuno â ffocws y canllawiau ar gyfer ailsefydlu a nodir ym Mhennod 3 o’r Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau?

 

Cwestiwn 3: Ydych chi’n cytuno â’r datblygiadau gofynnol i’r gweithlu a nodir ym Mhennod 4 o’r Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau?

 

Cwestiwn 4: Ydych chi’n cytuno â’r gofynion yn ymwneud â mynediad at systemau gwybodaeth a nodir ym Mhennod 5 o’r Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau?
 

 

Cwestiwn 5: Ydych chi’n cytuno â’r safonau cyffredinol arfaethedig ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y carchardai a’u pwyslais ar y meysydd canlynol: 
  • Derbyn ac asesu – gan gynnwys trefniadau i asesu pobl sydd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd
  • Triniaeth ac adfer
  • Rhyddhau a throsglwyddo
  • Diogelwch
  • Profiad cleifion
  • Partneriaethau cydweithredol
  • Rheoli meddyginiaeth
  • Amgylchedd ehangach y carchar
  • Gweithlu
  • Arweinyddiaeth a llywodraethu
  • Gofal iechyd meddwl 24 awr y dydd
  • Yr Iaith Gymraeg

 

Cwestiwn 6: A oes gennych chi unrhyw heriau i’r dystiolaeth a nodir yn y Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau a’r safonau newydd ar gyfer iechyd meddwl, a sut y gellir mynd i’r afael â’r heriau hyn?

 

Cwestiwn 7: Rydym wedi cyhoeddi fersiwn ddrafft o Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant at ddibenion ymgynghori ochr yn ochr â’r Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau drafft a’r safonau drafft ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y carchardai. Ydych chi’n cytuno â’n hasesiad o’r effeithiau ar hawliau plant a nodir yn yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant?



 

 

Cwestiwn 8: Rydym wedi cyhoeddi fersiwn ddrafft o Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ochr yn ochr â’r Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau drafft a’r safonau drafft ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y carchardai. Ydych chi’n cytuno â’n hasesiad o’r effeithiau ar bobl â nodweddion gwarchodedig?


 

 

Cwestiwn 9: Rydym wedi cyhoeddi fersiwn ddrafft o Asesiad o’r Effaith ar yr Iaith Gymraeg at ddibenion ymgynghori ochr yn ochr â’r Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau drafft a’r safonau drafft ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y carchardai. Ydych chi’n cytuno â’n hasesiad o’r effeithiau ar yr Iaith Gymraeg?

    




 

 

Cwestiwn 10: Hoffem wybod eich safbwyntiau ar effeithiau’r Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau drafft a’r safonau drafft ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y carchardai ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?

 

Cwestiwn 11: Eglurwch sut rydych chi’n credu y gellid llunio neu newid y Fframwaith Trin Camddefnyddio Sylweddau drafft a’r safonau drafft ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yn y carchardai er mwyn cael effeithiau cadarnhaol, neu fwy o effeithiau cadarnhaol, ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r iaith Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac ar osgoi effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

Cwestiwn 12: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech wneud sylwadau ar unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y blwch isod i'w nodi: