CAMHS - Adolygiad Cenedlaethol - Arolwg Plant / Pobl Ifanc - 2024

0%

1. Amdani Ni

 

Mae Eich Llais yn Bwysig

 

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ydym ni. Rydym yn gwneud yn siŵr bod pobl yng Nghymru yn cael gofal da.  

Rydym yn gwneud yn siŵr bod gwasanaethau llesiant ac iechyd meddwl yn darparu gwasanaethau amserol a hygyrch i bobl ifanc 11-16 oed fel chi.

 

Drwy ateb y cwestiynau isod, byddwch yn ein helpu i ddeall yr hyn sy'n cael ei wneud yn dda a'r hyn y gellid ei wneud yn well.
Hoffem wybod mwy am eich profiadau ac, os ydych wedi defnyddio gwasanaethau CAMHS, y cymorth oedd ar gael i chi.

 

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) (neu SCAMHS) yw'r enw ar wasanaethau'r GIG sy'n asesu pobl ifanc ag anawsterau iechyd meddwl ac yn eu trin. Mae timau CAMHS yn cynnwys therapyddion, seiciatryddion plant a'r glasoed (meddygon sy'n arbenigo mewn iechyd meddwl), nyrsys a gweithwyr cymdeithasol yn ogystal â gweithwyr proffesiynol eraill. Gweler Mind am ragor o wybodaeth.

 

Bydd eich ymateb i'r arolwg hwn yn ddienw. Mae hyn yn golygu na fydd neb yn gallu eich adnabod o'ch atebion.

Os ydych o dan 16 oed, gofynnwch i'ch rhiant neu ofalwr cyn cwblhau'r arolwg hwn.Efallai y byddai'n ddefnyddiol cael rhiant neu ofalwr gerllaw rhag ofn y bydd angen help arnoch i ateb y cwestiynau.

Os ydych chi'n rhiant/gofalwr neu'n ofalwr maeth ac yn dymuno rhoi adborth, gweler y dolenni i'r arolygon canlynol:

Rhieni/Gofalwyr
Gofalwr Maeth

Os hoffech gael unrhyw help neu gyngor, gallwch gysylltu â'r sefydliadau isod. Byddwn yn eich atgoffa o'r rhain eto ar ddiwedd yr arolwg.

 

Samaritans Cymru Ffoniwch 116 123
On My Mind | Adnoddau i Bobl Ifanc | Canolfan Anna Freud
Young Minds
Heads Together
Shout
The Mix


Os hoffech wneud cais am yr arolwg hwn mewn fformat arall, cysylltwch â ni a bydd aelod o'n tîm cyfeillgar yn eich ateb: agic@llyw.cymru 

Diolch am eich help.

*Nodwch y dylai'r arolwg hwn gymryd tua 10 munud i'w gwblhau. Gallwch gadw eich atebion a pharhau â'r arolwg hwn ar unrhyw adeg.