Mapio Bwyd Torfaen - Arolwg defnyddwyr
0%

Cyflwyniad

Mae Miller Research ar hyn o bryd yn ymgymryd ag astudiaeth mapio bwyd helaeth yn Nhorfaen, i gefnogi’r cyngor wrth iddo symud at fod yn Lle Bwyd Cynaliadwy.

Mae lleoedd bwyd cynaliadwy yn rhaglen bartneriaeth a arweinir gan y Soil Association, Food Matters a Sustain. Mae’r rhwydwaith yn dwyn at ei gilydd bartneriaethau bwyd o drefi, dinasoedd, bwrdeistrefi, dosbarthau a siroedd ledled y DU sy’n gyrru arloesi ac arferion gorau ar bob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy. Mae rhagor o wybodaeth yma.

Nod prosiect mapio bwyd Torfaen yw adeiladu darlun o weoedd bwyd lleol, eu cymeriad, manteision, yr heriau a wynebir a’r effaith y mae’r rhwydweithiau hyn yn eu cael ar bobl, eu bywoliaeth a chymeriad Torfaen. Drwy gyfrwng yr ymarfer mapio hwn, mae’r ymchwil yn gobeithio datblygu map cynhwysfawr o system fwyd leol y fwrdeistref, ynghyd ag adnabod partneriaid allweddol yng nghyfnod nesaf y prosiect – i ffurfio grŵp llywio Partneriaeth Fwyd Torfaen.

Fel rhan o’r ymchwil, rydym yn dosbarthu arolwg cwsmeriaid arlein i bobl sy’n byw yn y sir i weld beth mae pobl yn ei feddwl am sut beth fyddai system fwyd gynaliadwy. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn deall y gyrwyr allweddol a’r rhwystrau rydych efallai yn eu wynebu o ran cael mynediad at a phrynu bwyd lleol, iach.

Bydd darganfyddiadau’r ymchwil yn cael eu cadw’n ddienw. Nid oes atebion cywir neu anghywir – rydym eisiau adborth agored a gonest. Bydd yr arolwg yn cymryd rhyw 10 munud i’w gwblhau.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Megan Byrne (megan@miller-research.co.uk), Ymgynghorydd gyda Miller Research a rheolwr prosiect.

Diolch am eich help. Rydym yn ei werthfawrogi yn fawr.