Mapio Bwyd Torfaen - Arolwg Gweithredu Cymunedol
0%
Mae Miller Research ar hyn o bryd yn ymgymryd ag astudiaeth mapio bwyd helaeth yn Nhorfaen, i gefnogi’r cyngor wrth iddo symud at fod yn Lle Bwyd Cynaliadwy.

Mae lleoedd bwyd cynaliadwy yn rhaglen bartneriaeth a arweinir gan y Soil Association, Food Matters a Sustain. Mae’r rhwydwaith yn dwyn at ei gilydd bartneriaethau bwyd o drefi, dinasoedd, bwrdeistrefi, dosbarthau a siroedd ledled y DU sy’n gyrru arloesi ac arferion gorau ar bob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy. Mae rhagor o wybodaeth yma.  
 
TNod prosiect mapio bwyd Torfaen yw adeiladu darlun o weoedd bwyd lleol, eu cymeriad, manteision, yr heriau a wynebir a’r effaith y mae’r rhwydweithiau hyn yn eu cael ar bobl, eu bywoliaeth a chymeriad Torfaen. Drwy gyfrwng yr ymarfer mapio hwn, mae’r ymchwil yn gobeithio datblygu map cynhwysfawr o system fwyd leol y fwrdeistref, ynghyd ag adnabod partneriaid allweddol yng nghyfnod nesaf y prosiect – i ffurfio grŵp llywio Partneriaeth Fwyd Torfaen.
 
Fel rhan o hyn, rydym ar hyn o bryd yn ymgysylltu gyda mudiadau cymunedol a gwirfoddol/trydydd sector yn Nhorfaen, i gasglu gwybodaeth waelodlin ar gyfer yr ymarfer mapio a chael barn ar faterion cyfredol ynghyd â sut beth allai system sir-eang ar gyfer bwyd cynaliadwy fod.   
 
Bydd darganfyddiadau’r ymchwil yn cael eu cadw’n ddienw. Nid oes atebion cywir neu anghywir – rydym eisiau adborth agored a gonest. Bydd yr arolwg yn cymryd rhyw 10 munud i’w gwblhau.
 
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Megan Byrne (megan@miller-research.co.uk), Ymgynghorydd gyda Miller Research a rheolwr prosiect.

Diolch am eich help. Rydym yn ei werthfawrogi yn fawr.

Hysbysiad Preifatrwydd