Iaith:

Cynllun trwyddedu statudol i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru

 

Cwestiwn 1. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r cynnig i sefydlu cynllun trwyddedu fel y disgrifir ar gyfer pob math o lety ymwelwyr yng Nghymru?
 
 

 

Cwestiwn 2. Os ydych chi'n anghytuno â'r cynnig i sefydlu cynllun trwyddedu, a ydych chi'n cytuno â chreu cynllun cofrestru ar gyfer pob math o lety ymwelwyr yng Nghymru?

 

Cwestiwn 3. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y bydd cyflwyno cynllun trwyddedu statudol fel y disgrifir yn sicrhau tegwch i bob darparwr llety sy'n gweithredu yng Nghymru?

 

Cwestiwn 4. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno bod angen i Lywodraeth Cymru lunio rhestr o ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru er mwyn gwybod pwy sy'n gweithredu yn y diwydiant?

 

Cwestiwn 4a. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno bod angen i awdurdodau lleol lunio rhestr o ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru er mwyn gwybod pwy sy'n gweithredu yn y diwydiant?

 

Cwestiwn 5. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y bydd cyflwyno cynllun trwyddedu statudol yn sicrhau llwyfan effeithiol ar gyfer cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol a darparwr llety ymwelwyr yng Nghymru?

 

Cwestiwn 6. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y bydd cyflwyno cynllun trwyddedu statudol yn sicrhau bod mwy o hyder mewn darparwyr llety ymwelwyr a llety yng Nghymru?

 

Cwestiwn 7. Rydym o'r farn y dylai cynllun statudol gael ei weithredu ar sail hybrid, gan ymdrin ag elfennau craidd megis cofrestru darparwyr a phrosesu ceisiadau ar sail genedlaethol, gyda chamau  gorfodi yn cael eu cymryd gan awdurdodau lleol yn ôl y gofyn. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â hyn?
 

 

Cwestiwn 8. Cynigir bod yr holl lety ymwelwyr yn cael ei ystyried o fewn cwmpas cynllun statudol. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â hyn?

 

Cwestiwn 9. A allwch chi nodi unrhyw fath o lety ymwelwyr y dylid ei eithrio rhag bod yn rhan o gynllun statudol a beth yw'r rhesymau dros eich ateb (e.e. llety a ddefnyddir at ddibenion addysg neu grwpiau agored i niwed yn unig)?