Cadarnhad a phresenoldeb
Ni roddir tystysgrifau ar gyfer y cwrs. Mae’n gyfrifoldeb i glerc y bwrdd llywodraethu gadw gwybodaeth gyfredol ynglŷn â phwy sydd wedi cwblhau hyfforddiant.
Canslo eich archeb
Os ydych wedi archebu lle ar gyfer un o’n sesiynau llywodraethwyr ond ni allwch fynychu bellach, rhowch wybod i’r Gwasanaeth Dysgu cyn gynted â phosib gyda e-bost
AddysgEducation@ynysmon.llyw.cymru
Os oes rhaid i ni ganslo sesiwn
Bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod y cyrsiau yn rhedeg fel y bwriadwyd. Bydd sesiynau lle mai dim ond nifer fach o lywodraethwyr sydd wedi cofrestru ar eu cyfer yn cael eu hail-drefnu. Bydd sefyllfaoedd yn codi o ganlyniad i amgylchiadau sydd allan o’n rheolaeth lle bydd rhaid canslo, aildrefnu neu newid lleoliad cyrsiau. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn i’ch hysbysu o unrhyw newidiadau.
Gwerthuso
Bydd ffurflen werthuso ar gyfer y cwrs yn cael ei rhoi i chi ar ôl i chi gwblhau’r cwrs at ddibenion dadansoddiad mesurol ac ansoddol. Fel Gwasanaeth Dysgu, rydym bob amser yn adolygu ein gwaith. Bydd eich adborth yn ein cynorthwyo i wella ansawdd gwasanaethau i ysgolion, i fesur effaith ein sesiynau, i gynyddu ymgysylltiad llywodraethwyr ac i annog presenoldeb.
Datganiad diogelu data
Bydd gwybodaeth ar y ffurflen hon yn cael ei chadw'n electronig a bydd yn cael ei phrosesu gan Gyngor Sir Ynys Môn yn unig er mwyn archebu cyfranogwyr ar sesiynau hyfforddi perthnasol fel rhan o Raglen Ddatblygu'r Llywodraethwyr 2023/24.
Rydym o'r farn bod eich preifatrwydd yn bwysig a bydd y Cyngor yn prosesu'ch data personol yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018. Polisi Diogelu Data a Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor, gan gynnwys gwybodaeth am eich hawliau diogelu data, ar gael ar ein gwefan.