Defnyddiwch y ffurflen hon i roi gwybod inni am gyfleuster newydd, wedi’i ailadeiladu neu’i ehangu, y bwriadwch ei ddefnyddio i storio silwair, slyri neu olew tanwydd amaethyddol. Rhaid i chi roi gwybod inni o leiaf 14 niwrnod cyn i chi ddechrau defnyddio’r cyfleuster, ond anogwn ni chi i wneud hyn cyn gynted ag y gallwch, a gorau oll wrth i chi ddechrau cynllunio’r gwaith, i osgoi camgymeriadau costus posib. Os yw’r cyfleuster yn cynnwys tanc elifiant silwair sy’n rhannol neu’n gyfan gwbl o dan y ddaear, rhaid i chi ofyn i’r sawl a adeiladodd neu a gynlluniodd y tanc i lofnodi’r dystysgrif yn Adran 5 y ffurflen hon. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 0300 065 3000.