Iaith:

Ymdrin â chamymddwyn honedig gan uwch-swyddogion awdurdodau lleol

 

C1. Mae'n amlwg y dylid defnyddio “camau disgyblu” ar gyfer materion yn ymwneud â chamymddwyn yn unig. Dylai'r rheoliadau ymwneud ag ymddygiad uwch swyddogion yn unig. Dylid ymdrin â materion sy'n ymwneud â pherfformiad yn lleol fel y cytunwyd gan bolisïau sy'n gysylltiedig â pherfformiad. Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno?

 

C2. Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai llywodraeth leol ddatblygu canllawiau arfer da ar reoli perfformiad ar gyfer uwch swyddogion. Byddai hyn yn helpu i leihau'r dryswch ynghylch yr hyn y gellir defnyddio camau disgyblu, drwy'r rheoliadau hyn, ar eu cyfer.

Byddai Gweinidogion Cymru yn croesawu eich barn ynghylch a fyddai rhagor o eglurder yn ddefnyddiol yn y rheoliadau a’r dogfennau cefnogi o ran yr amgylchiadau y maent yn berthnasol iddynt, ac os felly, unrhyw awgrymiadau ynghylch y geiriad. 

 

C3. Dylid dilyn y gosb a argymhellir gan y PAD – Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno? Os ydych chi’n anghytuno byddai’n ddefnyddiol i chi gynnwys gwybodaeth i gefnogi eich ateb.

 

C4. A ddylid penodi person heb gymhwyster cyfreithiol mewn rhai achosion - dylid/na ddylid. Os ‘dylid’, a ddylai gael mynediad at gyngor cyfreithiol annibynnol?

 

C5. A ddylid diwygio’r rheoliadau i alluogi i'r Pwyllgor Ymchwilio benderfynu a ddylid penodi PAD â chymhwyster cyfreithiol neu heb gymhwyster cyfreithiol yn y cam ymchwilio rhagarweiniol. A ydych yn cytuno neu’n anghytuno? Esboniwch eich ateb.

 

C6. A ddylid diwygio’r rheoliadau fel bod y PAD, p'un a oes ganddo gymhwyster cyfreithiol ai peidio, yn cael ei benodi ar “sail safle tacsis” i sicrhau tegwch a didwylledd yn y broses. A ydych yn cytuno neu’n anghytuno? Esboniwch eich ateb.

 

C7. Rôl y Pwyllgor Ymchwilio yw canfod a oes achos i'w ateb ac, os oes, a oes angen ymchwilio ymhellach iddo. Nid rôl y Pwyllgor Ymchwilio yw ymchwilio i'r achos yn fwy manwl. A ydych yn cytuno neu’n anghytuno? Esboniwch eich ateb.

 

C8. Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai'r gwaith a wneir gan y pwyllgor ymchwilio gael ei rannu gyda'r PAD i osgoi dyblygu ymdrech? Esboniwch eich ateb.

 

C9. A ddylai’r rheoliadau a/neu’r wybodaeth gefnogi sicrhau bod gan y PAD bwerau penodol i gymryd camau sy'n briodol yn eu barn nhw i sicrhau bod yr ymchwiliad yn mynd rhagddo'n effeithlon os bydd methiant i gydymffurfio ag amserlen? Esboniwch eich ateb.

 

C10. Ni ddylid gohirio'r ymchwiliad am gyfnod amhenodol. Os yw'r broses wedi cael ei gohirio am gyfnod hir oherwydd nad yw'r person sy'n destun ymchwiliad wedi ateb neu os yw'n ymddangos ei fod yn ceisio oedi'r broses, awgrymir y dylai'r PAD allu parhau â'r gwrandawiad yn absenoldeb yr unigolyn sy'n destun ymchwiliad. A ydych yn cytuno neu’n anghytuno?

 

C11. Os bydd ymchwiliadau allanol yn gwneud cais i atal y broses PAD, yna dylid ystyried hynny. Dylid ystyried sylwadau gan yr unigolyn sy'n destun ymchwiliad hefyd. Fodd bynnag, dylai'r PAD gael cyfle i ofyn i'r penderfyniad ar ohirio'r broses gael ei adolygu yn unol ag amserlen y dylid ei ystyried ar gyfer pob achos unigol. Dylid cofnodi’r rhesymeg dros beidio â pharhau, pa bynnag benderfyniad a wneir. A ydych yn cytuno neu’n anghytuno?

 

C12. O ran y rhyngweithio rhwng rheolau sefydlog a thelerau ac amodau cytundebol, ydych chi’n cefnogi adolygiad o’r cyfansoddiad enghreifftiol?

 

C13. Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai ymgynghori ar yr adolygiad o'r trefniadau ar gyfer ymdrin â chamymddwyn honedig gan uwch swyddogion mewn awdurdodau lleol (Adolygiad Oldham) yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.  Pa effeithiau rydych chi'n credu y byddai? Sut y gellid cynyddu effeithiau positif a lliniaru effeithiau negyddol? 

 

C14. Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi'n credu y gall y polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei addasu er mwyn cael effeithiau positif neu gynyddu effeithiau positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.  

 

C15. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i'r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny: