Iaith:

Newidiadau i’r gofynion ar ddarparwyr rhai gwasanaethau gofal cymdeithasol rheoleiddiedig

 
Cynnig 1: dirymu diwygiadau sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws a wnaed gan Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2020

Cwestiwn 1: A ydych yn cytuno y dylai rheoliad 4 (eithrio rhag cwmpas gwasanaethau cartrefi gofal) o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2020 gael ei ddirymu ar 31 Hydref 2022?

 

Cwestiwn 2: A ydych yn cytuno y dylai rheoliad 5 (eithrio rhag cwmpas gwasanaethau cymorth gofal cartref) o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2020 gael ei ddirymu ar 31 Hydref 2022?  

 

Cwestiwn 3: A ydych yn cytuno y dylai rheoliad 6 (addasrwydd staff) o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2020 gael ei ddirymu ar 31 Hydref 2022?  

(Mae rheoliad 6 yn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau sy'n darparu gwasanaethau cartref gofal, yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer oedolion, neu wasanaethau cymorth cartref i oedolion)  

 

Cwestiwn 4: A ydych yn cytuno y dylai rheoliad 7 (ystafelloedd a rennir) o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2020 gael ei ddirymu ar 31 Hydref 2022?  

(Mae rheoliad 7 yn gymwys i ddarparu llety i oedolion, mewn ystafelloedd a rennir)  

 

Cwestiwn 5: A ydych yn credu y bydd unrhyw ganlyniadau anfwriadol a/neu oblygiadau ariannol i ddirymu unrhyw un o'r diwygiadau a wnaed gan Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2020?

 


Cwestiwn 6: A ydych yn credu y bydd dirymu unrhyw un o'r diwygiadau a wnaed gan Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig?

Dyma’r nodweddion gwarchodedig: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd a chred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol.

i.    Yn eich barn chi, beth fyddai'r effeithiau ac ar ba nodweddion y byddai'r effeithiau i'w gweld? 

ii.    Sut gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Esboniwch isod:

 

Cwestiwn 7: Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai dirymu unrhyw un o'r diwygiadau a wnaed gan Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn eu cael ar yr iaith Gymraeg.

Yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

i. Pa effeithiau y byddai'n eu cael yn eich barn chi? 

ii. Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol a lliniaru’r effeithiau negyddol?

Esboniwch isod: 

 


Cwestiwn 8: Eglurwch hefyd sut rydych chi’n credu y gallai’r cynnig i ddirymu’r diwygiadau a wnaed gan Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2020 gael ei lunio neu ei newid er mwyn cael effeithiau cadarnhaol, neu fwy o effeithiau cadarnhaol, ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac er mwyn peidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 
Cynnig 2: egluro'r disgrifiad o adeiladau Categori C yn rheoliad 49 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017.


Cwestiwn 9:  Ym mharagraffau 25 – 32 o'r ddogfen ymgynghori rydym wedi nodi ein bwriad i egluro'r disgrifiad o adeiladau 'Categori C' yn rheoliad 49 o Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017, ac wedi egluro ein sail resymegol dros wneud hyn. 

A oes gennych unrhyw sylwadau ar y cynnig hwn neu ei effeithiau posibl?

Cynhwyswch unrhyw ganlyniadau anfwriadol a/neu unrhyw oblygiadau ariannol; unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ar grwpiau â nodweddion gwarchodedig; ac effeithiau ar y Gymraeg.

 

Cwestiwn 10: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i'r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma: