Pan fyddwch yn penodi peiriannydd sifil cymwys i archwilio neu oruchwylio gwaith sy’n hanfodol o ran diogelwch, mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni am hyn.
Goruchwylir gwaith peirianneg cronfeydd dŵr gan beirianwyr sifil cymwys a benodir gan y Llywodraeth i banel arbenigol.

Rhaid i chi roi gwybod i ni pan fyddwch yn penodi peiriannydd sifil cymwys:
  • Fel Peiriannydd Goruchwylio
  • Fel Peiriannydd Archwilio
  • Fel peiriannydd sifil cymwys i adrodd ar gronfa ddŵr cyn rhoi’r gorau i’w defnyddio fel na all lenwi â dŵr i lefel a allai beri risg
  • Fel peiriannydd sifil cymwys i ddylunio a goruchwylio’r broses o ddod â chronfa ddŵr i ben fel nad yw’n gallu dal 10,000 metr ciwbig o ddŵr