Dewis iaith arall

Ffurflen Gofrestru Dyfarniad Cymhorthdal

Cwblhewch yr holl flychau (gan gynnwys 3, 4 a 5 lle bo'n gymwys). Mae esboniad o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani wedi'i gynnwys o dan y ffurflen.

I gael cymorth â llenwi’r ffurflen hon, anfonwch e-bost i tryloywder@llyw.cymru

 

1. Cyfeiriad e-bost cyswllt

 

2. A yw eich cymhorthdal yn gymhorthdal annibynnol?
 

Mae cymhorthdal annibynnol yn gymhorthdal nad yw'n cael ei roi fel rhan o gynllun. Rhaid uwchlwytho'r holl ddyfarniadau cymhorthdal annibynnol. Nid oes trothwy y mae eithriad rhag y rhwymedigaeth i uwchlwytho dyfarniad yn is nag ef (oni bai bod eithriad yn Rhan 3 o'r Deddf Rheoli Cymorthdaliadau yn gymwys).

 

3. Rhif neu enw rheoli cymhorthdal (ar gyfer cymorthdaliadau o dan gynllun yn unig)
 

Rhif rheoli cymhorthdal: Er enghraifft, SC92138. Rhaid i hyn gyd-fynd â'r cynllun cymhorthdal y mae'r dyfarniad hwn yn gysylltiedig ag ef.

Enw rheoli'r cymhorthdal: Hwn yw enw'r cynllun cymhorthdal y mae'r dyfarniad hwn yn gysylltiedig ag ef.

 

4. Rhaglen weinyddol gysylltiedig (ar gyfer cymorthdaliadau o dan gynllun yn unig)
 

Os yw rhoi cymorthdaliadau tebyg o dan lwybr symlach neu gynllun awdurdod cyhoeddus sylfaenol, mae 'rhaglen weinyddol' (y cyfeirir ati hefyd fel 'grwpio') yn caniatáu i'r cymorthdaliadau hynny gael eu grwpio a'u llwytho i fyny mewn swmp i'r gronfa ddata.

 

5. Sail gyfreithiol (ar gyfer cymhorthdal annibynnol, nad yw'n ymwneud â'r cynllun yn unig)
 

Hwn yw cyfiawnhad cyfreithiol y cymhorthdal hwn, er enghraifft ‘Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006’ neu ‘Adran 1(2), 1(3)d a 1(7) o Ddeddf Asiantaeth Datblygu Cymru 1975’.

 

6. Beth yw amcan polisi penodol y cymhorthdal
 

Crynodeb byr o'r amcan polisi cyhoeddus penodol a nodwyd gennych yn Egwyddor A o'ch asesiad egwyddorion. Noder, oherwydd cyfyngiadau cyfrif geiriau, peidiwch â chopïo'r egwyddor A lawn yr asesiad. Os ydych yn defnyddio cynllun cymhorthdal gwaddol a grëwyd cyn 4 Ionawr 2023, gadewch yn wag.

 

7. A yw'r cymhorthdal yn gymhorthdal o Ddiddordeb, neu Ddiddordeb arbennig?
 

Gweler pennod 10 o Ganllawiau statudol y DU ar gyfer diffiniadau o Gymhorthdal o Ddiddordeb, neu Ddiddordeb Arbennig (SoI/SoPI).

 

8. A oes adroddiad wedi'i gyhoeddi gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) mewn perthynas â'r cymhorthdal?
 

Er enghraifft, yn dilyn atgyfeiriad SoI neu SoPI.

 

9. Diben y cymhorthdal
 

Dewiswch o'r rhestr. Os ydych yn dewis 'arall', nodwch gategori cyffredinol ar gyfer diben eich cymhorthdal mewn llai na 255 o nodau.

 

10. Math o Gymhorthdal

 

10. Swm llawn yr elfen gymhorthdal
 

Darparwch werth llawn y cymhorthdal mewn £.

 

12. Enw awdurdod cyhoeddus
 

Enw'r awdurdod cyhoeddus sy'n dyfarnu'r cymhorthdal.

 

13. Dyddiad rhoi
 

Dyddiad yr ymrwymiad sy'n rhwymo mewn cyfraith i roi'r dyfarniad cymhorthdal.

   DD/MM/YYYY 
 
 

14. Enw'r sefydliad sy'n ei gael
 

Defnyddiwch yr enw cofrestredig swyddogol.

 

15. Maint y sefydliad
 

Maint y sefydliad fel y'i diffinnir yn Neddf Cwmnïau 2006.

 

16. Math o ddull adnabod

 

17. Rhif ID
 

Rhaid i hyn gyd-fynd â'r math o ID. Er enghraifft, os gwnaethoch ddewis ‘rhif TAW’ ar gyfer y math o ID, rhaid i chi nodi rhif TAW y derbynnydd.

 

18. Nwyddau neu wasanaethau
 

Yr hyn y mae'r sefydliad yn ei ddarparu. Er enghraifft, mae gwerthwr llysiau yn darparu nwyddau, tra bo deintydd yn darparu gwasanaethau.

 

19. Rhanbarth
 

Hwn yw'r rhanbarth y mae'r sefydliad wedi'i leoli ynddo.

 

20. Sector

 

21. Pa rai, os oes rhai, o'r canlynol sy'n gymwys i'r cymhorthdal neu'r cynllun?
 

Ticiwch bob un sy'n berthnasol. Cysylltwch â'r Uned Rheoli Cymorthdaliadau os nad ydych yn siŵr a oes unrhyw rai yn gymwys i'ch cymhorthdal. Ni ddylech ond dewis (a) Egwyddorion ynni a'r amgylchedd os ydych wedi asesu'ch cymhorthdal yn erbyn yr egwyddorion penodol hyn. Os ydych yn defnyddio cynllun cymhorthdal gwaddol sy'n rhagflaenu'r Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau (er enghraifft, cynllun gwaddol GBER), dewiswch 'ydy' yn (n) cymorthdaliadau gwaddol.

YdyNac ydy
a. Egwyddorion ynni a'r amgylchedd
b. Adleoli gweithgareddau
c. Achub
d. Ailstrwythuro
e. Ailstrwythuro cymerwyr adneuon neu gwmnïau yswiriant
f. Diddymu cymerwyr adneuon neu gwmnïau yswiriant
g. Diddymu darpariaeth ar gyfer cymerwyr adneuon neu gwmnïau yswiriant
h. Cymorthdaliadau i yswirwyr sy'n darparu yswiriant credyd allforio
i. Cymorthdaliadau ar gyfer cludwyr awyr ar gyfer gweithredu llwybrau
j. Gwasanaethau o Fudd Economaidd Cyffredinol
k. Trychinebau naturiol ac amgylchiadau eithriadol eraill
l. Argyfyngau economaidd cenedlaethol neu fyd-eang
m. Sefydlogrwydd ariannol (fel y cyfarwyddir gan Drysorlys y DU)
n. Cymorthdaliadau gwaddol
o. Prosiectau cydweithredu trawsffiniol neu ryngwladol mawr