Cwblhewch y rhan hon o’r ffurflen os ydych chi’n gwneud cais i amrywio (newid) unrhyw ran o’ch trwydded gweithgarwch perygl llifogydd pwrpasol (bespoke) (gan gynnwys amodau).

Dim ond manylion y rhannau o’r drwydded fydd yn cael eu heffeithio fydd angen i chi eu darparu (er enghraifft, os ydych chi’n ychwanegu strwythur newydd, yn gwneud newid i strwythur neu’n gwneud newidiadau i’r fethodoleg).

Nid oes angen i chi ail-anfon unrhyw wybodaeth o’ch cais gwreiddiol am drwydded os nad yw’n cael ei effeithio gan eich newidiadau arfaethedig.