Iaith:

Ymgynghoriad ar gael gwared ar atebolrwydd unigolion cymwys sy’n gadael gofal am dalu’r dreth gyngor

 

C1. A ydych yn cytuno â bwriad y polisi i ddileu atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol am dalu’r dreth gyngor ar gyfer pobl sy’n gadael gofal? Nodwch eich rhesymau.

 

C2. Rydym wedi cynnig gwneud newidiadau i'r ddeddfwriaeth berthnasol i ddileu atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol am dalu’r dreth gyngor ar gyfer pobl sy’n gadael gofal. Ydych chi'n cytuno â hyn, neu a allwch chi awgrymu opsiynau eraill?

 

C3. Hoffem gael eich barn ar unrhyw effeithiau y byddai’r cynigion hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn enwedig ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

Beth fyddai'r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu leihau effeithiau negyddol? 

 

C4. Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r dull polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac er mwn sicrhau na fydd effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

 

C4. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i’w nodi.