Iaith:

Ymgynghoriad ar argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o’r Fframwaith Safonau Moesegol (adroddiad Richard Penn)

 
Nid ydym yn gofyn am ymatebion penodol ar yr holl argymhellion. O ystyried y trafodaethau a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol, mae ymatebion Gweinidogion Cymru i'r argymhellion yn cynnwys nifer o awgrymiadau ar gyfer newid deddfwriaethol; yn tynnu sylw at rai camau yr aethpwyd i'r afael â hwy ers cyhoeddi’r Adroddiad heb fod angen deddfwriaeth; rhai awgrymiadau ynghylch camau gweithredu heb fod angen deddfwriaeth, ac awgrymiadau pellach ar gyfer gwelliannau, sydd wedi’u nodi mewn trafodaethau â rhanddeiliaid ers cyhoeddi'r Adroddiad.
Fodd bynnag, mae cwestiwn cyffredinol ar ddiwedd y cwestiynau ymgynghori lle gallwch ychwanegu eich sylwadau ar yr argymhellion nad oes cwestiwn penodol ar eu cyfer isod, neu os ydych am wneud unrhyw sylwadau eraill ar y ddogfen ymgynghori.