Mae’r ffurflen hon ar gyfer cwsmeriaid sydd eisoes â thrwydded amgylcheddol ar gyfer gollwng elifion carthion domestig o hyd at 15 metr ciwbig y dydd (m3) i’r ddaear neu hyd at 20 metr ciwbig (m3) y dydd i ddŵr wyneb ac sy’n bwriadu naill ai:

Cywiro camgymeriad ar eich trwydded gyfredol neu wneud newidiadau i'ch manylion personol neu fanylion eich cwmni.

Gwneud newid technegol i'r drwydded (er enghraifft newid lleoliad y gollyngiad, newid cyfaint neu gynnwys y gollyngiad. 

Os oes angen i chi drosglwyddo'ch trwydded i rywun arall, mae angen i chi lenwi'r ffurflen hon (yn agor mewn ffenestr ar wahân)

Os ydych yn bwriadu canslo (ildio) eich trwydded gan nad oes ei hangen mwyach, mae angen i chi lenwi'r ffurflen hon (yn agor mewn ffenestr ar wahân)

Os oes angen i chi wneud cais am drwydded newydd i ollwng carthion domestig i dir, mae angen i chi lenwi’r ffurflen hon (yn agor mewn ffenestr ar wahân)

Os ydych am newid trwydded amgylcheddol sydd gennych i ollwng mwy o garthion domestig neu elifion masnachol neu gymysg, llenwch y ffurflen hon.