Iaith:

Ymgynghoriad ar ailbrisio ardrethi annomestig 2023: rhestr ardrethi ganolog

 

C1. Beth yw eich barn am y dull arfaethedig o drin rhwydweithiau telathrebu o ran y Rhestr Ardrethi Ganolog?

 

C2. Beth yw eich barn am y dull arfaethedig o drin y sector telathrebu symudol o ran y Rhestr Ardrethi Ganolog?

 

C3. Beth yw eich barn am gynigion i ddiddymu'r rheoliadau rhannu mast?

 

C4. Beth yw eich barn am y dull arfaethedig o drin systemau rheilffyrdd o ran y Rhestr Ardrethi Ganolog?

 

C5. Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r cynigion hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar y canlynol:
cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg;
peidio â thrin yr iaith Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 
Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi? Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?

 

C6. Eglurwch hefyd sut y gellid llunio neu newid y cynigion, yn eich barn chi,
er mwyn:
sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg; 
atal unrhyw effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg nac ar drin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

 

C7. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w cofnodi.