Iaith:

Trefniadau sefydlu statudol athrawon newydd gymhwyso yng Nghymru

 

Cwestiwn 1: A ddylid dileu'r gofyniad presennol i gwblhau cyfnod sefydlu o dri thymor/380 o sesiynau er mwyn cwblhau'r cyfnod sefydlu'n llwyddiannus, er mwyn rhoi hyblygrwydd a galluogi athrawon newydd gymhwyso (ANGau) sy'n dangos ymarfer effeithiol ac sy'n cyrraedd y safonau mewn llai o amser gwblhau'r cyfnod sefydlu?

 

Cwestiwn 2: A ddylid cyflwyno lleiafswm i hyd cyfnod sefydlu o un tymor (neu gyfnod cyfatebol) er mwyn galluogi ANGau sy'n dangos ymarfer effeithiol ac sy'n bodloni’r safonau proffesiynol i gwblhau'r cyfnod sefydlu'n llwyddiannus?
(Ni fyddai disgwyl i unrhyw ANG gwblhau'r cyfnod sefydlu o fewn y lleiafswm amser hwn.)

 

Cwestiwn 3: O fis Medi 2023 ymlaen, a ddylai fod yn ofynnol i bob ANG weithio cyfnod o gyflogaeth barhaus mewn un ysgol o un tymor/dau hanner tymor yn olynol o leiaf (neu gyfnod cyfatebol i weithwyr rhan amser) ar ryw adeg yn ystod eu cyfnod sefydlu?

 

Cwestiwn 4: A ddylai canlyniad y cyfnod sefydlu gael ei farnu'n bennaf ar allu ANG i arddangos ymarfer effeithiol a dangos ei fod yn cyrraedd y safonau proffesiynol?
(O dan y trefniant hwn, ni fyddai angen y gofyniad i athrawon cyflenwi byrdymor gwblhau a chofnodi sesiynau o gyflogaeth unigol mwyach.)

 

Cwestiwn 5: A ddylid ailgyflwyno gofyniad i gwblhau cyfnod sefydlu o fewn cyfnod penodol o bum mlynedd ar ôl ennill statws athro cymwysedig (SAC)?

 

Cwestiwn 6: A ddylai ANGau allu gyfrif amser addysgu mewn unedau cyfeirio disgyblion sy'n addysgu'r Cwricwlwm i Gymru tuag at eu cyfnod sefydlu?

 

Cwestiwn 7: A ddylai rôl y corff priodol gael ei gwahanu oddi wrth rôl y cydgysylltydd sefydlu er mwyn sicrhau bod rhaniad clir rhwng y dyletswyddau?

 

Cwestiwn 8: A ddylai'r penderfyniad am ganlyniad y cyfnod sefydlu gael ei wneud gan y mentor sefydlu, gyda gwirwyr allanol yn cyflawni rôl sicrhau ansawdd ac yn ymdrin ag achosion sydd ar y ffin ar ran y corff priodol?

 

Cwestiwn 9: A ddylai rôl y mentor sefydlu gael ei hariannu a'i chyflawni gan fentoriaid hyfforddedig sydd (lle y bo hynny'n bosibl) yn aros gyda'r ANG drwy gydol ei gyfnod sefydlu?

 

Cwestiwn 10: Ac eithrio’r gofyniad arfaethedig i bob ANG ymgymryd  â chyfnod o gyflogaeth barhaus mewn un ysgol o un tymor neu ddau hanner tymor yn olynol o leiaf (neu gyfnod cyfatebol i weithwyr rhan amser), a ydych o’r farn y dylai’r newidiadau arfaethedig i’r trefniadau sefydlu yr ymgynghorwyd arnynt gael eu gweithredu mewn paratoad ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd 2022/23?

Ar gyfer unrhyw gynnig yr ydych yn ei ystyried na ddylid ei weithredu erbyn dechrau’r flwyddyn academaidd 2020/23, nodwch y rhesymau pam.

 

Cwestiwn 11: Amlinellwch unrhyw gymorth penodol neu gyfleoedd dysgu proffesiynol y dylid eu cynnig ar gam cynnar gyrfa.