Iaith:

Categorïau cofrestru newydd ar gyfer Cyngor y Gweithlu Addysg

 

Cwestiwn 1 – A ydych chi’n cytuno bod y Gorchymyn drafft yn adlewyrchu'r categorïau cofrestru ychwanegol arfaethedig ar gyfer ysgolion annibynnol yn gywir?

 

Cwestiwn 2 – A ydych chi’n cytuno bod y Gorchymyn drafft yn cadarnhau'r gofyniad i bob pennaeth mewn ysgolion a gynhelir gofrestru?

 

Cwestiwn 3 – A ydych chi’n cytuno bod y Gorchymyn drafft yn adlewyrchu'r diwygiadau arfaethedig ar gyfer y sector gwaith ieuenctid yn gywir?

 

Cwestiwn 4 – A ydych chi’n cytuno bod y diwygiadau a wnaed i Atodlenni 1 a 2 i Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Cofrestru Gweithwyr Ieuenctid, Gweithwyr Cymorth Ieuenctid ac Ymarferwyr Dysgu Seiliedig ar Waith) 2016 yn cyflwyno rhestr gywir o gymwysterau gweithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid (gan gynnwys cymwysterau cyfatebol ledled y DU a chymwysterau hanesyddol perthnasol)?

 

Cwestiwn 5 – A ydych chi’n cytuno bod y Gorchymyn drafft yn adlewyrchu'r categorïau cofrestru newydd arfaethedig ar gyfer Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol yn gywir?

 

Cwestiwn 6 – A ydych chi’n cytuno â'r strwythur ffioedd a chymhorthdal arfaethedig ar gyfer y categorïau cofrestru newydd arfaethedig?

 

Cwestiwn 7 – A ydych chi’n cytuno â'n dadansoddiad o effeithiau posibl y categorïau cofrestru newydd arfaethedig?

 

Cwestiwn 8 – A ydych chi’n meddwl bod unrhyw newidiadau eraill i'r ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â chofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg y dylid eu hystyried?

 

Cwestiwn 9 – Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai ein cynigion yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
 
Pa effeithiau y byddent yn eu cael, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu'r effeithiau cadarnhaol a lliniaru'r effeithiau negyddol?

 

Cwestiwn 10 – Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi’n credu y gallai'r cynigion gael eu llunio neu eu haddasu er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac o ran sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac o ran sicrhau na chaiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.

 

Cwestiwn 11 – Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch ddefnyddio’r blwch isod i wneud hynny: