Mapio’r Ddarpariaeth Addysg Ariannol i Blant a Phobl Ifanc

0%
 
CYFLWYNIAD
 
Diolch i chi am roi gwybodaeth i’n prosiect mapio darpariaeth addysg ariannol. 

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau ac UK Finance wedi dod at ei gilydd, gyda chefnogaeth Trysorlys Ei Mawrhydi, i lunio’r darlun mwyaf cynhwysfawr a chyfredol erioed o’r gwaith sy’n digwydd ar draws y wlad i wella sgiliau ariannol plant a phobl ifanc. Nod yr ymchwil hwn yw casglu’r wybodaeth ddiweddaraf am bob prosiect, ymyrraeth a gweithgaredd sy’n rhoi addysg ariannol i rai dan 18 oed sy’n cael eu magu yn y Deyrnas Unedig. 

Defnyddir y canfyddiadau i ddynodi bylchau yn y ddarpariaeth ac i gefnogi datblygu polisi a thargedu cyllido a chyflawni yn y dyfodol – i sicrhau bod rhagor o blant a phobl ifanc yn cael addysg ariannol sy’n bodloni eu hanghenion. Defnyddir rhywfaith o’r wybodaeth hefyd (gyda’ch caniatâd) i ddiweddaru ein map o addysg ariannol, gan helpu ysgolion, rhieni ac eraill i ddod o hyd i wasanaethau a chefnogaeth a all eu helpu i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth ac agweddau ariannol plentyn neu berson ifanc. 

Rhag ofn nad ydych yn siŵr, rydym yn diffinio “addysg ariannol” fel unrhyw weithgaredd i wella sgiliau, gwybodaeth, cymhelliant ac agweddau ariannol plant a phob ifanc, gan eu cefnogi i wneud penderfyniadau ariannol da ac i sicrhau llesiant ariannol da. 

Ni ddylai’r prif arolwg gymryd mwy na 20 munud i’w lenwi, ac yna mae cais byr am wybodaeth bellach benodol. Gwnewch yn siŵr bod gennych gymaint o wybodaeth â phosibl am eich prosiect wrth law. Trwy gydol yr arolwg mae dewis i rannu eich ymatebion a pharhau i lenwi’r arolwg yn nes ymlaen. Os byddwch chi yn cynnig mwy nag un gwasanaeth, prosiect neu ymyrraeth, llenwch yr arolwg ar gyfer pob un ohonynt. 

Os oes gennych chi ragor o gwestiynau edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin neu cysylltwch â Zoe Renton (zoe.renton@moneyadviceservice.org.uk).
CYFRINACHEDD 

Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau ac UK Finance yn cynnal yr arolwg hwn a bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn eich atebion (gan gynnwys unrhyw wybodaeth bersonol neu fasnachol) (“Gwybodaeth”) yn cael ei rhoi i’r ddau barti. Bydd y wybodaeth y byddwch yn ei rhoi (ac eithrio data personol) hefyd yn cael ei rhannu gyda Thrysorlys EM. Bydd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau ac UK Finance yn cadw unrhyw Wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn gyfrinachol. Bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio ar gyfer cynnal dadansoddiad o’r ddarpariaeth o addysg ariannol i blant a phobl ifanc a datblygu strategaeth i wella’r ddarpariaeth honno. Ni fydd y Wybodaeth y byddwch yn ei rhoi yn cael ei rhannu ag unrhyw unigolyn arall (ac eithrio Trysorlys Ei Mawrhydi fel y sonnir uchod) oni bai ein bod yn cael caniatâd ysgrifenedig i wneud hynny. Bydd canfyddiadau cyhoeddedig yr ymchwil hwn yn cael eu gwneud yn ddienw ac ni ellir eu tadogi ar eich sefydliad chi. Bydd y canlyniadau cyhoeddedig yn cael eu rhannu â chi. 

Mae’r arolwg yn gofyn am eich manylion cyswllt, ac am eich caniatâd clir i ni gysylltu â chi yn y dyfodol am y prosiect hwn (gan gynnwys rhannu canfyddiadau a gyhoeddir) ac am waith ehangach yn ymwneud ag addysg ariannol. 

Os oes gennych chi ragor o gwestiynau ynglŷn â’r ffordd y defnyddir gwybodaeth bersonol, edrychwch ar Bolisi Preifatrwydd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau a Pholisi Preifatrwydd UK Finance.