Iaith:

Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif

 

C1. Ydych chi’n cytuno â’r weledigaeth ar gyfer urddas mislif a amlinellir yn y cynllun? Sut byddech chi’n ei gwella?

 

C2. Pa mor realistig yw gwireddu’r weledigaeth o fewn y pum mlynedd nesaf? Beth fydd yn atal y weledigaeth rhag cael ei gwireddu a beth allai helpu i’w gwireddu?

 

C3. Mae’r Cynllun wedi’i strwythuro fesul thema bolisi. Oes yna themâu neu gamau gweithredu penodol sydd ar goll yn y Cynllun? Beth yw’r rhain a chyfrifoldeb pwy ydynt?

 

C4. Ydy’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif yn ymateb yn ddigonol i’r croestoriad rhwng urddas mislif a thlodi mislif i’r rheini â nodweddion gwarchodedig, ac anfantais economaidd-gymdeithasol? Os nad yw, sut y gallwn wella hyn?

 

C5. Beth yn rhagor y dylai Llywodraeth Cymru ei wneud mewn perthynas â materion iechyd ehangach fel y perimenopos, y menopos, endometriosis, syndrom ofarïau polysystig, anhwylder dysfforig cyn mislif, a chanserau gynaecolegol. Ydych chi o’r farn y dylid cynnwys y camau hyn yn y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif neu mewn gwaith polisi arall?

 

C6. Hoffem wybod eich barn am yr effaith y byddai’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif yn ei chael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi?  Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol? 

 

C7. Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Urddas Mislif gael ei lunio neu ei newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.