Mae'r ffurflen gais hon am drwydded i ymyrryd â brochfeydd moch daear at ddiben cadwraeth neu ymchwiliad archaeolegol i heneb gofrestredig.

Diffinnir ymyrraeth gan adran 3 o Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992 ac mae’n cynnwys aflonyddu ar foch daear wrth feddiannu brochfa, difrodi neu ddinistrio brochfa moch daear a rhwystro unrhyw fynedfa i frochfa.

Rhaid cwblhau'r holl gwestiynau yn y ffurflen gais hon yn fanwl oni nodir yn wahanol: bydd methu darparu gwybodaeth ddigonol yn oedi prosesu eich cais.  Dylid atodi unrhyw wybodaeth arall rydych am ei darparu ar daflenni ychwanegol. Ein nod yw penderfynu ceisiadau o fewn 40 diwrnod gwaith ar ôl derbyn yr holl wybodaeth y gofynnir amdani. Ni allwn warantu ymateb cynharach.

Amod unrhyw drwydded a roddir yw bod rhaid cyflwyno adroddiad llawn ar y gwaith a wnaed dan y drwydded o fewn pedair wythnos wedi i'r drwydded ddod i ben. Mae’r Ffurflen Adrodd am Drwydded ar gael ar ein gwefan. Gall methu â gwneud hyn fod yn drosedd. Mae angen gwybodaeth o'r adroddiadau hyn i roi gwybodaeth gryno i CNC ac eraill am nifer y trwyddedau a roddwyd, diben y drwydded, a'r rhywogaethau dan sylw. Nid oes unrhyw rai o'r ystadegau cryno hyn yn cynnwys gwybodaeth bersonol am drwyddedeion. Gall yr wybodaeth hefyd gael ei defnyddio at ddibenion cadwraeth a'i rhannu â sefydliadau eraill.

Noder na fyddwn yn prosesu eich cais nes ein bod wedi derbyn yr holl ddogfennau y gofynnir amdanynt. Gwnewch yn siŵr os ydych yn anfon dogfennau neu gynlluniau atom ar ffurf copi papur fod y print yn ddarllenadwy. Bydd angen i'r holl gopïau fod yn unfath â'r ddogfen wreiddiol, ac mewn lliw fel sy'n briodol.

Bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych yn cael ei phrosesu gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data. Bydd hyn yn caniatáu i ni brosesu eich cais, monitro cydymffurfiaeth ag unrhyw amodau i’r drwydded ac i brosesu adnewyddiadau.

Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth rydych yn ei rhoi mewn cysylltiad â'r canlynol:
  • Ymgynghori â thrydydd partïon sy’n berthnasol ac yn gyfrifol am ymateb i geisiadau ymgynghori gan CNC i’n galluogi i brosesu eich cais
  • Cynnal gwaith dadansoddi ystadegol, ymchwil a datblygu ar faterion amgylcheddol
  • Atal ac ymchwilio i achosion posibl o dorri deddfau amgylcheddol a chymryd unrhyw gamau dilynol
Ymateb i geisiadau am wybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Sylwer nad yw'r uchod yn rhestr hollgynhwysol a gall CNC ddefnyddio'r data a ddarperir mewn cysylltiad â'r cais mewn ffyrdd eraill, fel yr ystyrir yn briodol.
Hoffem hefyd anfon manylion atoch ynglŷn â phynciau eraill y credwn y gallent fod o ddiddordeb i chi, megis newyddion CNC, gwasanaethau sy'n ymwneud â materion amgylcheddol, eich holi am eich adborth am ein gwasanaeth, a mwy o wybodaeth ddefnyddiol.

Os ydych yn cydsynio i dderbyn gwybodaeth bellach gennym, ticiwch y blwch canlynol i gadarnhau.
 
Rhaid i'r cais hwn gael ei gefnogi gan ddatganiad dull.  Rhaid i'r datganiad dull gynnwys cynlluniau wrth gefn os canfyddir unrhyw rywogaethau ar y safle tra bo’r gwaith yn mynd rhagddo.

Ein nod yw anfon cydnabyddiaeth o dderbyn eich cais o fewn pum diwrnod gwaith.

Mae CNC yn anelu at benderfynu ar geisiadau o fewn 40 diwrnod gwaith o ddyddiad derbyn ffurflen gais a gwblhawyd a'r wybodaeth gysylltiedig ofynnol. Cyfeiriwch at y rhestr wirio ar ddiwedd y ffurflen hon am arweiniad pellach. Os bydd angen gwybodaeth bellach oddi wrthych yn ystod y cyfnod penderfynu, am ba bynnag reswm, bydd hyn yn oedi'r cyfnod penderfynu.

Bydd yr holl ohebiaeth a anfonir atoch gan CNC drwy e-bost.  Os nad oes cyfeiriad e-bost wedi'i ddarparu, byddwn yn cysylltu â chi ar ffurf ysgrifenedig drwy'r post.  Sylwer y gall hyn oedi eich cais o ganlyniad i amseroedd dosbarthu trwy’r post.
Rhaid i unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y cais y mae’r prif drwyddedai arfaethedig yn ei hystyried yn gyfrinachol am resymau masnachol neu sy’n effeithio ar hawliau eiddo deallusol y prif drwyddedai arfaethedig gael ei nodi'n glir fel y cyfryw.