Iaith:

Cwricwlwm i Gymru: canllawiau ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol

 

Cwestiwn 1 – Ydy’ch gwaith yn ymwneud â darparu addysg neu gefnogi darparu addysg?

 

i) Os ydy, beth yw eich sefydliad? (Os nac ydy, ewch i iii isod)

 

ii) Beth yw eich prif rôl?

 

iii) Os nad ydy’ch gwaith yn ymwneud â darparu addysg neu gefnogi darparu addysg, ym mha rinwedd yr hoffech roi adborth?

 

iv) A ydych chi'n darparu adborth ar ran sefydliad neu grŵp?

 

v) Os, ‘ydw’, esboniwch:

 

Cwestiwn 2 – A oes perthynas glir rhwng y canllawiau Cwricwlwm i Gymru drafft hyn ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol a chanllawiau cyhoeddedig Cwricwlwm i Gymru? 

 

Cwestiwn 3 – A yw'r canllawiau hyn yn mynd i'r afael â'r materion sy'n wynebu unedau cyfeirio disgyblion, a darparwyr addysg heblaw yn yr ysgol eraill, wrth drefnu, cynllunio a darparu cwricwlwm ac asesu ar gyfer dysgwyr?

 

Cwestiwn 4 – A yw'r canllawiau hyn yn cefnogi ac yn helpu’r broses o drefnu, cynllunio a darparu cwricwlwm ac asesu ar gyfer dysgwyr mewn unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau eraill sy’n darparu addysg heblaw yn yr ysgol?

 

Cwestiwn 5 – Pa agweddau ar y canllawiau hyn sy’n arbennig o ddefnyddiol yn eich barn chi?

 

Cwestiwn 6 – A oes agweddau ar y canllawiau hyn y gellid eu gwella yn eich barn chi?

 

Cwestiwn 7 – A oes unrhyw wybodaeth y dylid ei chynnwys yn y canllawiau hyn yn eich barn chi?

 

Cwestiwn 8 – A oes gennych unrhyw bwyntiau pellach i'w gwneud am y canllawiau Cwricwlwm i Gymru drafft hyn ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol yn benodol?

 

Cwestiwn 9 – Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r canllawiau Cwricwlwm Cymru ar gyfer  addysg heblaw yn yr ysgol yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar:

i)       gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg
ii)      peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?

Sylwadau ategol:

 

Cwestiwn 10 – Eglurwch hefyd sut gellid ffurfio neu newid y canllawiau Cwricwlwm i Gymru arfaethedig ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol:

i) fel bod effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
ii) fel nad oes effeithiau andwyol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Sylwadau ategol
 

 

Cwestiwn 11 – Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi faterion perthnasol nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y blwch isod i roi gwybod i ni amdanynt.