Iaith:

Ymgynghoriad ar Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021: canllawiau statudol Cynghorau Cymuned a Thref

 

C1. Yn gyffredinol, a yw strwythur a chwmpas y canllawiau'n cael eu cyflwyno'n glir ac mewn ffordd sy'n ymarferol i gynghorau cymuned a thref?   

 

C2. A yw Pennod 1 yn darparu canllawiau digonol a phriodol ar yr amodau cymhwysedd ar gyfer arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol? A yw'n glir o ran sut y dylid defnyddio pŵer cymhwysedd cyffredinol? Pa wybodaeth ychwanegol fyddai o gymorth?

 

C3. Pa wybodaeth ychwanegol fyddai o gymorth i ddangos neu egluro sut y gellid cymhwyso'r pŵer cymhwysedd cyffredinol i gynghorau cymuned? A oes gennych unrhyw astudiaethau achos a allai gefnogi hyn?  

 

C4. A yw Penodau 2 a 3 yn darparu canllawiau digonol a phriodol ar y gofynion sy'n ymwneud â chyfarfodydd aml-leoliad a sut y gall y cyhoedd gymryd rhan yng nghyfarfodydd y cyngor?

 

C5. A yw Pennod 4 yn darparu canllawiau digonol a phriodol ar gyflawni'r ddyletswydd i baratoi a chyhoeddi adroddiadau blynyddol? Pa wybodaeth benodol ychwanegol fyddai o gymorth?

 

C6. A yw Pennod 5 yn darparu canllawiau digonol a phriodol ar gyflawni'r ddyletswydd i baratoi a chyhoeddi cynlluniau hyfforddi? Pa wybodaeth ychwanegol fyddai o gymorth? 

 

C7. Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r canllawiau hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

 

C8. Eglurwch hefyd sut rydych chi'n credu y gall y canllawiau arfaethedig gael eu llunio neu eu haddasu er mwyn cael effeithiau positif neu gynyddu effeithiau positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

C9. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym  wedi mynd i’r afael â hwy yn benodol, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny.