Iaith:

Pennu cyfraddau datgyfalafu i Gymru ar gyfer Ailbrisio Ardrethi Annomestig yn 2023

 

C1. A ydych yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru barhau i bennu'r cyfraddau datgyfalafu a ddefnyddir yn y prisiadau ar Sail y Contractwr?

 

C2. A ydych yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru barhau i bennu dwy gyfradd ddatgyfalafu yng Nghymru?

 

C3. A oes gennych unrhyw safbwyntiau ar y dulliau o bennu cyfraddau datgyfalafu (gan gynnwys unrhyw awgrymiadau ar gyfer dulliau amgen), ar yr ystod o werthoedd a gynhyrchir gan bob dull, neu ar rinweddau, neu fel arall, pob dull?

 

C4. A ydych yn cytuno â dull arfaethedig Llywodraeth Cymru o bennu cyfraddau datgyfalafu yng Nghymru?

 

C5. Beth yw eich barn am fabwysiadu polisi cyffredinol ar gyfer pennu cyfraddau datgyfalafu yng Nghymru ar gyfer ailbrisiadau yn y dyfodol?
 

 

C6. Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai’r Rheoliadau Drafft yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol a lliniaru’r effeithiau negyddol?

 

C7. Eglurwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gellid llunio neu newid y Rheoliadau Drafft er mwyn cael effeithiau positif, neu fwy o effeithiau positif, ar gyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

C8. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw bwyntiau pellach yn ymwneud â'r ymgynghoriad hwn nad ydym wedi mynd i'r afael â nhw yn benodol, defnyddiwch y blwch hwn i roi gwybod inni.