Prosesu Data Personol fel rhan o’n Dyletswydd Gyhoeddus
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn prosesu eich data fel rhan o’n dyletswydd gyhoeddus ar gyfer y dibenion penodol o gasglu adborth am brofiadau pobl sy’n cael mynediad at wasanaethau digartrefedd er mwyn deall y galw am wasanaethau, i wella cyflenwi gwasanaeth, a chefnogi cynllunio gwasanaeth o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Mae’r arolwg cefnogaeth yn ôl yr angen yn ddienw, ac ni ofynnir i unigolion ddarparu eu henw nag unrhyw wybodaeth bersonol.
Ni fydd Cyngor Sir y Fflint yn rhannu eich data gydag unrhyw sefydliad arall. Mae’n bosibl y caiff y wybodaeth a gesglir drwy’r arolwg hwn ei defnyddio mewn modd dienw ar gyfer adroddiadau mewnol a gwella a chynllunio gwasanaethau. Gall data hefyd gyfrannu at adroddiadau dienw i Lywodraeth Cymru lle bo hynny’n berthnasol.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw ymatebion i arolygon yn unol ag atodlen gadw’r Cyngor a chyhyd ag sydd ei hangen er mwyn gwella gwasanaethau ac at ddibenion adrodd yn unig.
Os ydych chi’n teimlo bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’r hawliau sy’n berthnasol i ti, gweler ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan – https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx.