Iaith:

Ymgynghoriad ar y Rheoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Cymru) (Coronafeirws) 2021 drafft.

 

C1. A ydych yn credu bod unrhyw broblemau o ran cychwyn y rheoliadau o'r dyddiad y cânt eu gosod?

 

C2. A yw'r ymatebion a’r mesurau a restrir o dan reoliad 2(1) o'r rheoliadau drafft yn diffinio'n briodol yr ymatebion a'r mesurau cysylltiedig â Covid-19 a allai effeithio ar werth ardrethol eiddo?

 

C3. A yw geiriad rheoliad 2(2) o'r rheoliadau drafft yn rhoi'r eglurder angenrheidiol i atal apeliadau sy'n gysylltiedig â Covid-19 rhag cael eu gwneud yn y dyfodol?

 

C4. A oes angen unrhyw eglurder pellach yn y diffiniadau a nodir yn rheoliad 2(3) o'r rheoliadau drafft?

 

C5. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ynghylch y rheoliadau drafft?

 

C6. Hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn ar yr effeithiau y byddai'r rheoliadau drafft hyn yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol:
(i) ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg; a
(ii) ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi? Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

 

C7. Eglurwch hefyd sut y gellid llunio neu newid rheoliadau drafft, yn eich barn chi, er mwyn:
cael effeithiau cadarnhaol, neu fwy o effeithiau cadarnhaol, ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a
peidio â chael effeithiau niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

 

C8. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â hwy'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny.