Trefniadau asesu: is-ddeddfwriaeth yn deillio o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021
Cwestiwn 1: Wrth ymateb i'r ymgynghoriad, beth yw eich prif rôl?
Cwestiwn 2: O ba leoliad neu sefydliad rydych yn ymateb?
Cwestiwn 3: A ydych yn rhoi adborth ar ran sefydliad neu grŵp?
Trefniadau Asesu
Hoffem yn gyntaf glywed eich barn ar y dyletswyddau a'r disgwyliadau y mae'r cynigion yn eu gosod ar leoliadau ac ysgolion i wneud, gweithredu ac adolygu trefniadau asesu. Mae'r cynigion ynglŷn ag adran 56(1) ar dudalennau 4 i 10 o'r ddogfen ymgynghori. Cwestiwn 4: A yw'r disgwyliadau a osodir ar leoliadau ac ysgolion o ran trefniadau asesu yn eglur?
Cwestiwn 5: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y bydd y dyletswyddau a'r disgwyliadau a osodir ar leoliadau ac ysgolion yn cefnogi cynnydd dysgwyr yn effeithiol yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru?
Cwestiwn 6: Wrth ymateb i'r dyletswyddau a'r disgwyliadau o ran asesu, a oes unrhyw ystyriaethau ymarferol neu heriau y dylai'r cynigion eu hadlewyrchu yn eich barn chi?
Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys darariaethau ynglŷn ag asesiadau dechreuol. Mae'r rhain yn ceisio datblygu dealltwriaeth o'r dysgwr a dylent gael eu cynnal pan fydd dysgwr yn cael ei gofrestru gyntaf neu'n dechrau mewn lleoliad neu ysgol.
Mae manylion y cynigion ynglŷn ag asesiadau dechreuol ar dudalen 10 o'r ddogfen ymgynghori.
Cwestiwn 7: A yw'r ddyletswydd a osodir ar leoliadau ac ysgolion i gynnal asesiad dechreuol yn briodol ac yn realistig?
Dealltwriaeth Gyffredin o Gynnydd
Er mwyn datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd ac asesu ledled Cymru, mae'r cynigion yn cynnwys dyletswyddau a disgwyliadau ar leoliadau ac ysgolion i gymryd rhan mew deialog broffesiynol, hyfforddiant a chymorth.
Amlinellir y darpariaethau hyn ar dudalennau 10 i 14 o'r ddogfen ymgynghori. Cwestiwn 8: A yw'r disgwyliadau a osodir ar leoliadau ac ysgolion o ran datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn eglur?
Cwestiwn 9: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y bydd y dyletswyddau a'r disgwyliadau a osodir ar leoliadau ac ysgolion yn helpu i ddatblygu a gweithredu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn effeithiol?
Cwestiwn 10: Mewn ymateb i'r dyletswyddau a'r disgwyliadau o ran hyrwyddo dealltwriaeth gyffredin o gynnydd, a oes unrhyw ystyriaethau ymarferol neu heriau y dylai'r cynigion eu hadlewyrchu, yn eich barn chi?
Cwestiwn 11: Pa wybodaeth ychwanegol a fyddai'n fuddiol i gefnogi'r broses gyffredinol o ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd?
Mae'r cynigion yn amlinellu y dylai lleoliadau ac ysgolion ddod ynghyd bob tymor i drafod a chytuno ar ddealltwriaeth gyffredin o gynnydd a dull gweithredu.
Cwestiwn 12: A yw'r awgrym y dylid cyfarfod bob tymor yn briodol ac yn realistig?
Trosglwyddo
Mae'r cynigion yn amlinellu amrywiaeth o ddyletswyddau ar leoliadau ac ysgolion cynradd bwydo o ran rhannu gwybodaeth er mwyn helpu dysgwyr i drosglwyddo i leoliadau uwchradd.
Mae hyn yn cynnwys datblygu Cynlluniau Trosglwyddo ar gyfer pob dysgwr. Amlinellir y darpariaethau ar dudalennau 14 i 16 o'r ddogfen ymgynghori. Cwestiwn 13: A yw'r cynigion yn eglur o ran pa ysgolion fydd angen llunio Cynlluniau Trosglwyddo?
Cwestiwn 14: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y bydd y cynigion newydd ar gyfer gwybodaeth a gynigir yn y cynlluniau trosglwyddo a'r prosesau sy'n bwydo i mewn i'w datblygiad yn cefnogi parhad dysgu a chynnydd yn effeithiol?
Cwestiwn 15: Mewn ymateb i'r dyletswyddau a'r disgwyliadau o ran trosglwyddo, a oes unrhyw ystyriaethau ymarferol neu heriau y dylai'r cynigion eu hadlewyrchu yn eich barn chi?
Rhoi Adroddiad i Rieni a Gofalwyr
Mae'r cynigion hefyd yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â rhoi adroddiad ar gynnydd dysgwyr i rieni a gofalwyr. Amlinellir y darpariaethau hyn ar dudalennau 17 i 20 o'r ddogfen ymgynghori. Cwestiwn 16: A yw'r disgwyliadau a osodir ar leoliadau ac ysgolion o ran rhoi adroddiad i rieni a gofalwyr yn eglur?
Cwestiwn 17: Mewn ymateb i'r dyletswyddau a'r disgwyliadau o ran rhoi adroddiad i rieni a gofalwyr, a oes unrhyw ystyriaethau ymarferol neu heriau y dylai'r cynigion eu hadlewyrchu yn eich barn chi?
Mae'r cynigion yn amlinellu y dylai lleoliadau ac ysgolion gyfathrebu'n rheolaidd â rhieni a gofalwyr.
Cwestiwn 18: A yw'r awgrym y dylid cyfathrebu â rhieni a gofalwyr bob tymor yn briodol ac yn realistig?
Dylai'r wybodaeth a roddir i rieni a gofalwyr gynnwys crynodeb byr o lesiant a chynnydd dysgwr yn ogystal â chyngor ynglŷn â sut y gall rhieni a gofalwyr gefnogi cynnydd.
Er mwyn cael rhestr lawn o'r wybodaeth y dylid ei chynnwys wrth gyfathrebu, gweler tudalen 18 o'r ddogfen ymgynghori.
Cwestiwn 19: A fyddai rhannu'r mathau o wybodaeth a amlinellir yn y cynigion â rhieni a gofalwyr yn cefnogi dysgu a chynnydd?