Iaith:

Canllawiau Statudol Adolygu Diogelu Unedig Sengl

 

Cwestiwn 1: A yw’r Cyflwyniad yn rhoi eglurder ynglŷn â’r amcanion a’r rhesymau dros gyflwyno’r broses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl (ADUS)?

A yw’r Cyflwyniad fel y mae wedi’i nodi yn Adran 1 yn glir ac yn hawdd i’w ddeall?

 

Cwestiwn 2: A yw’r Egwyddorion sy’n tanategu’r ADUS a nodir yn Adran 2 yn cyflawni canlyniad dymunol ymagwedd ragweithiol tuag at ddatblygu datrysiadau a diwylliant dysgu cadarnhaol sy’n osgoi adroddiadau lluosog ar gyfer un digwyddiad, gan helpu i leihau trawma pellach ar gyfer dioddefwyr a’u teuluoedd?

 

Cwestiwn 3: A yw Adran 3 yn rhoi’r eglurder sydd angen i benderfynu pa bryd y dylid ymgymryd ag ADUS, ac a yw’r meini prawf yn glir a defnyddiol?

 

Cwestiwn 4: A yw Adran 4 yn darparu eglurder am y broses ADUS, ac a oes digon o fanylion ar gyfer pob cam?

 

Cwestiwn 5: A yw pob un o’r Rolau a Chyfrifoldebau a nodir yn Adran 5 yn glir a defnyddiol?

 

Cwestiwn 6: A yw paragraffau 5.6-5.9 ac atodiad 3 y canllawiau’n helpu Adolygw(y)r i ystyried pa un ai a ddylai partneriaid cymunedol (megis sefydliadau annibynnol a thrydydd sector) gael rhan yn y broses ADUS? Os na, sut y gallai’r canllawiau wella ar hyn?

 

Cwestiwn 7. A yw paragraffau 5.7 – 5.9 ac Atodiad 3 y canllawiau’n helpu’r Adolygw(y)r i ystyried pa un ai a ddylid gofyn i ‘unigolyn neu gorff cymwys’ am wybodaeth benodol? Os na, sut y gallai’r canllawiau wella ar hyn?  

Rhowch sylwadau:

 

Cwestiwn 8. I ba raddau ydych chi’n credu y gallai ymgysylltu gan bartneriaid cymunedol perthnasol, neu ‘unigolyn neu gorff perthnasol’ yn cyflenwi gwybodaeth benodol, lle mae hynny’n briodol, gynorthwyo’r broses ADUS? 
 
Rhowch sylwadau:

 

Cwestiwn 9: A yw’r canllawiau ar gyfer ymgysylltu â dioddefwyr, teuluoedd a phrif unigolion, fel y nodir yn Adran 6, yn glir a defnyddiol? Ystyriwch pa un ai a yw’n glir bod angen i’r Adolygw(y)r a’r Panel Adolygu ymdrin â phob cyfranogwr yn yr adolygiad fesul achos ac yn sicrhau bod y dioddefydd, teuluoedd a phrif unigolion wrth galon y broses adolygu.

 

Cwestiwn 10: Mae Adran 7 yn amlinellu nifer y camau sydd angen eu cymryd fel rhan o’r broses adolygu. A yw’r camau hyn yn y drefn gronolegol briodol ac yn glir o ran yr hyn sy’n ofynnol?

 

Cwestiwn 11: A yw Adran 8 yn sicrhau bod dysgu’n elfen allweddol o’r broses ADUS ac yn rhwymedigaeth statudol drwy roi eglurder ynglŷn â sut y rhennir dysgu a gwybodaeth fel rhan o’r broses ehangach, gan gynnwys gweithio gyda phartneriaethau perthnasol megis Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus?

 

Cwestiwn 12. A yw Adran 9 yn nodi’r ystyriaethau Diogelu Data mewn ffordd sy’n glir a defnyddiol? Hoffech chi weld ymrwymiad cyfreithiol clir yn yr adran hon sy’n ei wneud yn ofynnol i bartneriaid adolygu rannu gwybodaeth ar gyfer dibenion adolygu ADUU ar gais, pe bai modd dod o hyd i un?
 

 

Cwestiwn 13. A yw’r canllawiau’n rhoi digon o eglurder a hyblygrwydd er mwyn sicrhau y bydd partneriaid allweddol, gan gynnwys Partneriaethau Diogelwch Cymunedol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn gysylltiedig ac yn ymwneud â’r broses ADUU yn effeithiol, pan mae hyn yn briodol a defnyddiol?

 

Cwestiwn 14. Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y ffyrdd o weithio a nodir yn y canllawiau hyn ar unigolion a grwpiau â nodweddion gwarchodedig? Croesewir eich barn ynglŷn â sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol hefyd. Defnyddiwch y blwch testun i esbonio’ch rhesymau.

 

Cwestiwn 15. Yn eich barn chi, beth yw effeithiau eraill tebygol y ffyrdd o weithio a nodir yn y canllawiau hyn? Efallai yr hoffech ystyried, er enghraifft, manteision, ac anfanteision; costau (uniongyrchol ac anuniongyrchol), ac arbedion; materion ymarferol eraill. Croesewir eich barn ynglŷn â sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol hefyd. Defnyddiwch y blwch testun i esbonio’ch rhesymau.

 

Cwestiwn 16. Hoffem glywed eich barn hefyd am effeithiau’r broses ADUS ar y Gymraeg, ac yn arbennig ar y cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi?

Sut ellid cynyddu effeithiau cadarnhaol, neu liniaru effeithiau negyddol? 

Pa effeithiau y byddai’n eu cael, yn eich barn chi?  Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol a lliniaru’r effeithiau negyddol? 

 

Cwestiwn 17. Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gellid ffurfio neu newid y polisi arfaethedig er mwyn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, a pheidio â chael effaith andwyol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

Cwestiwn 18. Yr ydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin yn benodol â nhw, defnyddiwch y gofod hwn i adrodd amdanynt: