Dyma ffurflen gais am drwydded i ryddhau rhywogaeth a restrir yn
  • Atodlen 9 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
Mewn perthynas ag afancod Ewropeaidd, mae'r ffurflen gais hon hefyd yn cwmpasu rhyddhau afancod i dir caeëdig.
Byddwch yn ymwybodol, os yw eich gweithgaredd yn cynnwys rhyddhau afancod i'r gwyllt neu i dir caeëdig, y bydd angen i'ch cais gael ei atodi gan wybodaeth ychwanegol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n ofynnol ar ein gwefan (agor mewn tab newydd).

Gallwch uwchlwytho'r dogfennau angenrheidiol yn yr adran uwchlwytho dogfennau ar ddiwedd y ffurflen. Os nad ydym yn derbyn yr holl ddogfennau angenrheidiol, bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Sicrhewch fod arolygon a gyflwynir gyda'ch cais wedi cael eu cynnal o fewn y ddau dymor arolygu diwethaf.

 
Hyd trwyddedau ac ymrwymiadau adrodd
  • Rhoddir trwyddedau ar gyfer yr amser y bydd gweithgareddau sy'n effeithio ar yr anifeiliaid yn gymryd.
  • Amod unrhyw drwydded a roddir yw bod rhaid cyflwyno adroddiad llawn ar y gwaith a wnaed dan y drwydded o fewn pedair wythnos wedi i'r drwydded ddod i ben. Gall methu â gwneud hyn fod yn drosedd. Fe allai methu â gwneud hyn arwain at wrthod ceisiadau yn y dyfodol.
Mae’r Ffurflen Adrodd am Drwydded ar gael ar ein gwefan (agor mewn tab newydd). Mae angen gwybodaeth o'r adroddiadau hyn i roi crynodeb o wybodaeth i Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill ar nifer y trwyddedau a roddwyd, diben y drwydded, a'r rhywogaethau dan sylw. Nid oes unrhyw rai o'r ystadegau cryno hyn yn cynnwys gwybodaeth bersonol am ddalwyr y drwydded. Gall yr wybodaeth hefyd gael ei defnyddio at ddibenion cadwraeth a'i rhannu â sefydliadau eraill.