Mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn am eich barn am gynigion i weithredu isadeiledd Teithio Llesol (cerdded a beicio) ar ddau lwybr yn Nhreffynnon.

Mae Llwybr 1 yn gwasanaethu Ysgol Gynradd Gwenffrwd ac Ysgol Gynradd Gatholig Santes Gwenffrewi, ac mae Llwybr 2 yn gwasanaethu Ysgol Treffynnon ac Ysgol Maes y Felin.

Mae’r cynigion yn seiliedig ar astudiaeth a gynhaliwyd gan ymgynghorwyr yn 2022 lle nodwyd llwybrau allweddol i bob ysgol yn seiliedig ar ble mae’r disgyblion yn byw yn ogystal ag ymweliadau â’r safle, arsyllu ar broblemau a wynebir gan bobl sy’n cerdded a beicio, a thrafodaethau gyda rhai o’r ysgolion.

Am fwy o wybodaeth am y ffordd y mae’r Cyngor yn trin y wybodaeth a ddarparwch ewch i  https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-and-Democracy/Online-and-offline-research-and-your-privacy.aspx 

 Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw 2 Hydref 2023.