Iaith:

Cynllun gweithredu rhoi diwedd ar ddigartrefedd: 2021 i 2026

 

1. Mae'r Cynllun Gweithredu wedi'i rannu'n bedwar maes ffocws allweddol (Partneriaethau, Prin, Byrhoedlog a Ddim yn Digwydd Eto). Ydych chi'n cytuno mai dyma'r meysydd ffocws / themâu cywir i'r cynllun ganolbwyntio arnynt?

 

2. A yw'r camau gweithredu yn y Cynllun Gweithredu yn adlewyrchu'r camau lefel uchel mwyaf effeithiol a fydd yn galluogi Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru?

 

3. A yw'r Cynllun Gweithredu yn cyd-fynd â meysydd polisi ac arferion perthnasol eraill?

 

4. Rydym wedi datblygu nifer o gamau gweithredu a cherrig milltir allweddol. Ydych chi o'r farn mai dyma'r rhai cywir?

 

5. Ydych chi o'r farn bod unrhyw feysydd gweithredu allweddol na chânt eu cwmpasu gan y camau gweithredu lefel uchel? Os felly, pa rai?