Ffurflen gais yw hon am drwydded i ladd yn fwriadol, anafu, cipio (cymryd), tarfu'n fwriadol, difrodi/difetha safle bridio/trigfan, neu i gludo Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop.
Cyn i chi ddechrau

Bydd gofyn am ddatganiad dull wedi'i gwblhau ar gyfer y cais hwn.

Bydd angen dau eirda ar ecolegwyr nad ydynt wedi cael trwydded rhywogaeth gennym o'r blaen. Mae'n rhaid cyflwyno'r rhain gan ddefnyddio ffurflen eirda (bydd yn agor mewn tab newydd).

Bydd angen i'ch cais gynnwys y canlynol hefyd: 
  • map o'r lleoliad os nad yw wedi'i gynnwys eisoes yn y datganiad dull (graddfa 1:10,000 yn ddelfrydol a/neu haen system gwybodaeth ddaearyddol megis Shapefile os ar gael)
  • manylion unrhyw asiantau achrededig
  • arolwg rhywogaethau
  • tystiolaeth i gefnogi diben y gwaith
  • copïau o unrhyw ganiatadau neu gydsyniadau sy'n gysylltiedig â'r cais
  • unrhyw ohebiaeth berthnasol os yw'r gwaith ar neu'n agos at safle dynodedig
  • Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd os yw'n berthnasol
Prosesu'ch Cais

Edrychwch ar ein gwefan (bydd yn agor mewn tab newydd) ar gyfer y wybodaeth ddiweddaraf ar berfformiad ar lefel y gwasanaeth a'r amserlenni presennol ar gyfer prosesu ceisiadau. Ni allwn warantu y daw ateb yn gynharach.
Nodwch na fyddwn yn prosesu eich cais tan inni dderbyn yr holl ddogfennau y gofynnwyd amdanynt. Os byddwch yn methu â darparu gwybodaeth ddigonol, bydd oedi wrth brosesu eich cais.
Caiff ceisiadau eu hymdrin yn gronolegol. Golyga hyn eu bod yn cael eu prosesu yn unol â pha bryd y cawsant eu cyflwyno, nid yn ôl amseriad y gwaith. Byddwch cystal â chyflwyno eich cais mewn da bryd cyn y gwaith arfaethedig.

Dylech gysylltu â ni ar yr amod bod eich cais yn peri risg ar unwaith i iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd yn unig. Mae modd blaenoriaethu'r mathau hyn o geisiadau os gallwch arddangos risg sydd ar ddod.
Rhannu'ch cais Anfonir

Copi o'r ffurflen gais wedi'i chwblhau at yr ymgeisydd a'r ecolegydd.

Os rhoddir trwydded mewn perthynas â'ch cais a bod angen caniatâd cynllunio hefyd mewn perthynas â'r gweithgaredd y mae angen y drwydded ar ei gyfer, anfonir copi o'ch trwydded at yr awdurdod cynllunio perthnasol er gwybodaeth.
Rhaid i unrhyw wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y cais y mae’r Prif Drwyddedai arfaethedig yn ei hystyried yn gyfrinachol am resymau masnachol neu sy’n effeithio ar hawliau eiddo deallusol y Prif Drwyddedai arfaethedig gael ei nodi'n glir fel y cyfryw.

Os rhoddir trwydded mewn perthynas â'ch cais a bod angen caniatâd cynllunio hefyd mewn perthynas â'r gweithgaredd y mae angen y drwydded ar ei gyfer, anfonir copi o'ch trwydded at yr awdurdod cynllunio perthnasol er gwybodaeth.

Ffioedd

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffi i ddiwygio trwydded oni bai eich bod wedi'ch eithrio.

Dewch o hyd i wybodaeth am ein ffioedd a sut i dalu.