Mae dipio defaid yn chwarae rhan bwysig wrth reoli clafr defaid a pharasitiaid eraill yng Nghymru. Ond os na chaiff dip ei drin a'i waredu'n briodol, mae risg o lygredd i'r amgylchedd. Dylech sicrhau na fydd unrhyw ardal rydych chi'n ei defnyddio ar gyfer gollwng yn effeithio ar ddŵr daear, dŵr wyneb nac ardaloedd cadwraeth. Mae gennym gyfrifoldeb statudol i ddiogelu'r amgylchedd ynghyd â sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu trwyddedu yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol. Y terfynau ar gyfer gwaredu dipiau defaid gwastraff ar y tir yng Nghymru yw'r canlynol: • cyfanswm y cryfder gweithio ar gyfer dip wedi'i ddefnyddio a waredir ar y tir bob flwyddyn yw 5 metr ciwbig neu lai. Dyma'r cyfaint cyn ei wanhau â slyri neu ddŵr i hwyluso ei daenu ar y tir • mae cyfanswm yr arwynebedd wedi'i awdurdodi i'w ddefnyddio unwaith y flwyddyn yn unig, neu mae unrhyw leiniau unigol yn yr ardal ehangach hon wedi'u hawdurdodi i'w defnyddio unwaith y flwyddyn yn unig • mae uchafswm o dri gwarediad y flwyddyn yn digwydd ar draws y safle / daliad fferm ehangach • rhaid i'r tir fod mewn defnydd amaethyddol cyffredinol. Byddai tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwaredu yn unig yn cael ei ystyried yn safle tirlenwi • rhaid i'r arwynebedd o dir sydd ar gael fod yn ddigonol fel y gellir cadw taenu dip defaid wedi'i ddefnyddio i'r lleiafswm diogel Ni fyddwn yn gallu derbyn ceisiadau gan gwsmeriaid na allant fodloni'r gofynion hyn. Ni fydd unrhyw geisiadau a dderbynnir wedi’u gwneud yn briodol a byddant yn cael eu dychwelyd i'r ymgeisydd. Dylai ymgeiswyr na allant fodloni'r gofynion hyn ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig i gasglu'r dip defaid wedi'i ddefnyddio i'w waredu mewn cyfleuster trin gwastraff. Os nad yw'r ffurflen a anfonwch atom yn gyflawn, efallai y bydd oedi cyn gwneud penderfyniad ar eich cais neu, mewn rhai achosion, gallem ei gwrthod.
 
Mae dipio defaid yn chwarae rhan bwysig wrth reoli clafr defaid a pharasitiaid eraill yng Nghymru. Ond os na chaiff dip ei drin a'i waredu'n briodol, mae risg o lygredd i'r amgylchedd.

Dylech sicrhau na fydd unrhyw ardal rydych chi'n ei defnyddio ar gyfer gollwng yn effeithio ar ddŵr daear, dŵr wyneb nac ardaloedd cadwraeth.

Mae gennym gyfrifoldeb statudol i ddiogelu'r amgylchedd ynghyd â sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu trwyddedu yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol. Y terfynau ar gyfer gwaredu dipiau defaid gwastraff ar y tir yng Nghymru yw'r canlynol:
  • Dim ond cynhyrchwyr dip defaid gwastraff all ei waredu i dir. Hon fyddai naill ai'r ffermwr sy'n trochi ei ddefaid ei hun, neu gontractwr dip defaid symudol sy'n ymweld â gwahanol ffermydd i dipio. Nid yw'n cynnwys cwmnïau a allai dderbyn dip gwastraff o ffermydd trwy'r ffermwr neu'r contractwr dip symudol
  • cyfanswm y cryfder gweithio ar gyfer dip wedi'i ddefnyddio a waredir ar y tir bob flwyddyn yw 5 metr ciwbig neu lai. Dyma'r cyfaint cyn ei wanhau â slyri neu ddŵr i hwyluso ei daenu ar y tir
  •  mae cyfanswm yr arwynebedd wedi'i awdurdodi i'w ddefnyddio unwaith y flwyddyn yn unig, neu mae unrhyw leiniau unigol yn yr ardal ehangach hon wedi'u hawdurdodi i'w defnyddio unwaith y flwyddyn yn unig
  • mae uchafswm o dri gwarediad y flwyddyn yn digwydd ar draws y safle / daliad fferm ehangach
  •  rhaid i'r tir fod mewn defnydd amaethyddol cyffredinol.  Byddai tir sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion gwaredu yn unig yn cael ei ystyried yn safle tirlenwi
  •  rhaid i'r arwynebedd o dir sydd ar gael fod yn ddigonol fel y gellir cadw taenu dip defaid wedi'i ddefnyddio i'r lleiafswm diogel

Ni fyddwn yn gallu derbyn ceisiadau gan gwsmeriaid na allant fodloni'r gofynion hyn. Ni fydd unrhyw geisiadau a dderbynnir wedi’u gwneud yn briodol a byddant yn cael eu dychwelyd i'r ymgeisydd. Dylai ymgeiswyr na allant fodloni'r gofynion hyn ddefnyddio cludwr gwastraff cofrestredig i gasglu'r dip defaid wedi'i ddefnyddio i'w waredu mewn cyfleuster trin gwastraff.

Os nad yw'r ffurflen a anfonwch atom yn gyflawn, efallai y bydd oedi cyn gwneud penderfyniad ar eich cais neu, mewn rhai achosion, gallem ei gwrthod.