Iaith:

Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir

 

Cwestiwn 1 – Ydych chi’n gweithio ym maes addysg neu’n helpu i ddarparu addysg mewn lleoliad meithrin a ariennir nas cynhelir?

 

i) Os ‘ydw’, ym mha fath o leoliad/sefydliad yr ydych yn gweithio? (Os nac ydw, ewch i iii isod.)

 

ii) Beth yw eich prif rôl?

 

iii) Os nad ydych yn gweithio ym maes addysg neu’n helpu i ddarparu addysg mewn lleoliad a ariennir nas cynhelir, yn rhinwedd pa rôl yr ydych am roi adborth?

 

iv) Ydych chi’n darparu adborth ar ran sefydliad neu grŵp?

 

Cwestiwn 2 – I ba raddau y bydd y cwricwlwm hwn yn cefnogi cynllunio effeithiol mewn lleoliadau a ariennir nas cynhelir?

 

Cwestiwn 3 – Ydy hi’n glir sut mae’r pedwar diben yn sail i gyflwyno’r cwricwlwm hwn?

 

Cwestiwn 4 – Ydy’r llwybrau datblygu yn adlewyrchu mewn ffordd briodol y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig?

 

Cwestiwn 5 – Ydych chi’n gallu gweld sut bydd cyflwyno’r cwricwlwm hwn yn sicrhau cynnydd plant o’r llwybrau datblygu i’r disgrifiadau dysgu yng ngham cynnydd 1?

 

Cwestiwn 6 – I ba raddau y mae pwrpas y llwybrau datblygu wedi’i esbonio?

 

Cwestiwn 7 – Oes rhywbeth ar goll o ddatganiadau’r llwybrau datblygu?

 

Cwestiwn 8 – Ydy’r llwybrau datblygu yn ddigon cynhwysol i gwmpasu pob plentyn?

 

Cwestiwn 9 – I ba raddau y mae rolau’r ymarferydd, yr amgylchedd a phrofiadau wedi’u hesbonio?

 

Cwestiwn 10 – I ba raddau y mae’r cysylltiad rhwng y llwybrau a rôl yr ymarferydd, yr amgylchedd a phrofiadau wedi’i esbonio?

 

Cwestiwn 11 – I ba raddau y mae’r cwricwlwm hwn yn esbonio sut bydd y llwybrau datblygu yn helpu i ddatblygu’r sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol?

 

Cwestiwn 12 – I ba raddau y mae’n glir bod angen ymgorffori datblygiad y sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol yn arferion cyfannol y cwricwlwm cyfan?

 

Cwestiwn 13 – I ba raddau y mae’r datganiadau fesul cam ar gyfer y sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol o help o ran gefnogi ymarferwyr i ddeall sut mae plant yn datblygu’r sgiliau hyn?

 

Cwestiwn 14 – Pa wybodaeth ychwanegol, os o gwbl, fyddai’n helpu?

 

Cwestiwn 15 – I ba raddau y mae rolau gwahanol arsylwi ac asesu, yn ogystal â’r cysylltiad rhyngddynt, wedi’u hesbonio?

 

Cwestiwn 16 – I ba raddau y mae’r adran ar wella ymarfer yn helpu?

 

Cwestiwn 17 – Pa wybodaeth ychwanegol, os o gwbl, fyddai’n helpu yn yr adran hon?

 

Cwestiwn 18 – I ba raddau y mae’r cwestiynau myfyriol yn y cwricwlwm hwn yn helpu o ran:

i) cefnogi gwaith trefnu?

 

ii) ysgogi ymarferwyr i ystyried eu gwybodaeth a’u sgiliau?

 

iii) gwella arferion yn barhaus?

 

Cwestiwn 19 – Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai’r cwricwlwm hwn yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar:

i) gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
ii) peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?

Sylwadau ategol:

 

Cwestiwn 20 – Eglurwch hefyd sut gellid ffurfio neu newid y cwricwlwm hwn:

i) fel bod effeithiau cadarnhaol neu fwy o effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
ii) fel nad oes effeithiau andwyol ar gyfleoedd pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Sylwadau ategol:

 

Cwestiwn 21 – Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych chi faterion perthnasol nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt, defnyddiwch y blwch isod i roi gwybod i ni amdanynt.