Pwy Ydym Ni
Y Cyngor Ceiropractig Cyffredinol (CCC) yw'r rheoleiddiwr ar gyfer ceiropractyddion yn y DU, Ynys Manaw a Gibraltar. Rydym yno i sicrhau diogelwch cleifion sy'n derbyn triniaeth ceiropractig. Rydym yn gorff statudol annibynnol a sefydlwyd gan Senedd y DU, ac sy'n atebol iddi, i reoleiddio'r proffesiwn ceiropracteg.
Yr Ymgynghoriad Hwn
Ceisia'r ymgynghoriad hwn eich mewnwelediadau ar ein dogfen arfaethedig:
"Canllaw'r Cyngor Ciropractig Cyffredinol (CCC) i Geiropractyddion Cofrestredig: Ffiniau Proffesiynol".
Mae'r canllaw wedi'i gynllunio i gynorthwyo ceiropractyddion cofrestredig i fodloni disgwyliadau Cod Ymarfer Proffesiynol (yn effeithiol o 1 Ionawr 2026) mewn perthynas â Ffiniau Proffesiynol.
Cwblhau'r Ymgynghoriad
- Darllenwch y ddogfen cyn ymateb i holiadur yr ymgynghoriad.
- Gallwch ateb yr holiadur yn Gymraeg neu'n Saesneg trwy doglo'r gosodiad iaith (de uchaf).
- Er ein bod wedi ceisio cadw'r holiadur yn fyr, gallwch gadw'ch cynnydd ar ddiwedd bob tudalen a dychwelyd ato yn nes ymlaen.
- Gallwch hefyd lawrlwytho'ch atebion i'r holiadur (ar y dudalen olaf) os ydych yn awyddus i gadw copi at eich cofnodion eich hun.
- Ni fydd eich ymateb yn cael ei gynnwys yn yr ymgynghoriad oni bai eich bod wedi pwyso'r botwm "Gorffen yr Arolwg" ar ddiwedd yr holiadur.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben 11:59pm Ddydd Gwener 31 Hydref 2025.
Datganiad Datgelu Gwybodaeth
Efallai y bydd angen cyhoeddi neu ddatgelu gwybodaeth yn yr ymatebion, gan gynnwys gwybodaeth bersonol, o dan gyfundrefnau mynediad at wybodaeth (Yn bennaf Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2018, y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018, a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004).
Mae'r CCC yn rheolwr data wedi'i gofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (cyfeirnod Z7121966). Rydym yn defnyddio data personol i gefnogi'n gwaith fel corff rheoleiddio ceiropractyddion. Mae'n bosib y byddwn yn rhannu data gyda thrydydd partïon i gyflawni ein nodau a'n hamcanion statudol, ac wrth ddefnyddio ein pwerau a chyflawni ein cyfrifoldebau.
Trwy gwblhau'r holiadur hwn, rydych yn cytuno i'r CCC ddefnyddio eich ymatebion, a sylwadau y byddwch yn eu darparu, wrth drafod a hyrwyddo canfyddiadau'r ymgynghoriad a'r strategaeth.
- Os byddwn yn dyfynnu unigolyn, byddwn yn priodoli'r dyfyniad ar sail ei ddiddordeb mewn ceiropracteg (e.e: Dyfyniad gan glaf, Dyfyniad gan geiropractydd).
- Os byddwn yn dyfynnu sefydliad, byddwn yn priodoli'r dyfyniad ar sail disgrifiad o'r sefydliad (e.e: Dyfyniad gan Gymdeithas Broffesiynol, Dyfyniad gan Reoleiddiwr Iechyd, Dyfyniad gan elusen).