Ymgynghoriad Cymru ar Gaffael Cyhoeddus Is-ddeddfwriaeth: Rhan 2
Hysbysiad Piblinell (Yn rheoliad 33 o’r offeryn statudol drafft)
Bydd y rheoliad, yn rheoliad 33 o’r offeryn statudol drafft, yn rhoi rhag-rybudd i’r farchnad am gontractau cyhoeddus a ddisgwylir yn ystod y 18 mis nesaf y mae disgwyl i’w gwerth fod dros £2m. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i gyflenwyr fynd ar drywydd cyfleoedd posibl, gan eu galluogi i benderfynu a ydynt yn dymuno cynnig ai peidio.
Nid oes yn rhaid i gyfleustodau preifat gyhoeddi hysbysiad piblinell.
Mae angen ateb ar y cwestiwn hwn
1. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y bydd yr hysbysiad piblinell, fel y’i disgrifir yn yr offeryn statudol drafft, yn rhag-rybudd defnyddiol i gyflenwyr am gyfleoedd contractio sydd ar y gweill? *
Mae'r ateb mewn fformat annilys.
2. Os gwnaethoch chi ateb anghytuno neu anghytuno’n gryf i Gwestiwn 1, eglurwch pam nad ydych yn credu bod hyn yn cyflawni’r bwriad polisi.
Hysbysiad Caffael wedi’i Gynllunio (wedi’i gynnwys yn rheoliad 11 o’r offeryn statudol drafft)
Mae’r rheoliad yn rheoliad 11 o’r offeryn statudol drafft. Diben yr hysbysiad caffael wedi’i gynllunio yw rhoi gwybodaeth i’r farchnad ymlaen llaw. Bydd yn galluogi cyflenwyr a allai fod â diddordeb i benderfynu a yw cyfle caffael sydd ar y gweill yn rhywbeth maent yn dymuno cynnig amdano, ac yn rhoi cymaint o amser â phosibl iddynt baratoi.
Bydd modd ei gyhoeddi unrhyw bryd cyn yr hysbysiad tendro, ond os yw’n o leiaf 40 diwrnod ymlaen llaw (a dim mwy na blwyddyn ynghynt), caiff yr awdurdod contractio ddewis cwtogi cyfnod y tendr i isafswm o ddeg diwrnod. Dyma sut mae’n wahanol i’r Hysbysiad Piblinell.
Mae angen ateb ar y cwestiwn hwn
3. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod cynnwys yr hysbysiad sy’n cael ei ddisgrifio yn yr offeryn statudol drafft yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar gyflenwyr i benderfynu os oes ganddynt ddiddordeb ai peidio yn y cyfle caffael sy’n cael sylw yn yr hysbysiad? *
Mae'r ateb mewn fformat annilys.
4. Os gwnaethoch chi ateb anghytuno neu anghytuno’n gryf i Gwestiwn 3, eglurwch pam nad ydych yn credu bod hyn yn cyflawni’r bwriad polisi.
Hysbysiad Ymgysylltu Rhagarweiniol â’r Farchnad (wedi’i gynnwys yn rheoliad 12 o’r offeryn statudol drafft)
Mae’r rheoliad, sydd yn rheoliad 12 o’r offeryn statudol drafft, yn gwneud darpariaeth i awdurdodau contractio gyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad pan fydd yr ymgysylltu hwn yn cael ei gynnal neu wedi cael ei gynnal. Nid yw’n hysbysiad gorfodol, fodd bynnag, rhaid i awdurdod contractio ystyried p’un ai i gyhoeddi’r hysbysiad ai peidio yng nghyd-destun ei rwymedigaethau o dan y Bil Caffael. Pan fydd yr awdurdod wedi ymgysylltu, ond ni chafodd hysbysiad rhagarweiniad ar gyfer ymgysylltu â’r farchnad ei gyhoeddi, rhaid i’r hysbysiad tendro gynnwys y rhesymau am beidio â chyhoeddi.
Yn yr offeryn statudol drafft, mae Llywodraeth y DU wedi cynnwys gwelliant drafft yng nghymal 17 o’r Bil sy’n datgan nad oes yn rhaid i gyfleustodau preifat ddilyn y gofynion hyn o ran hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad. Mae Llywodraeth y DU ym ymgynghori ar y gwelliant arfaethedig ar ran y cyfleustodau preifat a gedwir yn ôl ac awdurdodau Gogledd Iwerddon a drosglwyddwyd, ac mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y gwelliant arfaethedig hwn ar ran awdurdodau datganoledig Cymru.
Mae angen ateb ar y cwestiwn hwn
5. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno bod yr hysbysiad fel y'i nodir yn yr offeryn statudol drafft yn cyflawni’r bwriad polisi o annog awdurdodau contractio i ymgysylltu’n rhagarweiniol â’r farchnad mewn ffordd agored a thryloyw? *
Mae'r ateb mewn fformat annilys.
6. Os gwnaethoch chi ateb anghytuno neu anghytuno’n gryf i Gwestiwn 5, eglurwch pam nad ydych yn credu bod hyn yn cyflawni’r bwriad polisi.
Mae angen ateb ar y cwestiwn hwn
7. I ba raddau ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno y dylai cyfleustodau preifat gael eu hesemptio o’r gofynion i gyhoeddi hysbysiad ymgysylltu rhagarweiniol â’r farchnad yng nghymal 17 o’r Bil? *
Mae'r ateb mewn fformat annilys.
8. Os gwnaethoch chi ateb anghytuno neu anghytuno’n gryf i Gwestiwn 7, rhowch eich rhesymau.