Iaith:

Pwerau Awdurdodau Lleol i fasnachu

 

C1. A yw'r rheoliadau drafft yn glir?

 

C2. A yw'r gofynion yn y rheoliadau drafft, mewn perthynas â'r achos busnes, yn ymdrin â'r pethau cywir?  A oes unrhyw faterion eraill y dylai fod yn ofynnol i'r achos busnes eu cynnwys?

 

C3. A ddylai'r rheoliadau nodi pwy ddylai gymeradwyo'r achos busnes?  Os felly, pwy ddylai wneud hynny?

 

C4. Beth yw eich barn am y dull arfaethedig o gymhwyso'r rheoliadau drafft at gynghorau cymuned cymwys?

 

C5. A ydych yn cytuno y dylid awdurdodi cynghorau cymuned sy'n gymwys i arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol i fasnachu yn eu swyddogaethau arferol hefyd.  Os nad ydych, pam?

 

C6. A ydych yn cytuno y dylai prif gynghorau a chynghorau cymuned cymwys fod yn ddarostyngedig i'r un amodau wrth fasnachu yn eu swyddogaethau arferol ac arfer y pŵer cyffredinol at ddiben masnachol?

 

C7. A fydd gosod yr amodau wedi'u diweddaru, a nodir yn y rheoliadau drafft, ar awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol, pan fyddant yn arfer eu pŵer i fasnachu yn eu swyddogaethau arferol, yn arwain at unrhyw ganlyniadau nad ydym wedi'u hystyried?

 

C8. Er mwyn mireinio'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu sylwadau ar y costau amcangyfrifedig i awdurdodau sy'n gysylltiedig â pharatoi achos busnes.  Byddem hefyd yn croesawu amcangyfrif o unrhyw gostau a allai ddeillio o'r gofyniad i adennill costau oddi wrth y cwmni.

 

C9. Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r rheoliadau drafft neu'r cynnig mewn perthynas â'r gorchymyn masnachu diwygiedig yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi?  Sut mae cynyddu effeithiau cadarnhaol neu liniaru effeithiau negyddol?

 

C10. Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gellid llunio neu newid y rheoliadau drafft arfaethedig neu'r cynnig mewn perthynas â'r gorchymyn masnachu diwygiedig er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. 

 

C11. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i'r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny: