Iaith:

Ardoll ymwelwyr dewisol i awdurdodau lleol

 
Efallai y bydd angen i chi gyfeirio at y dogfennau ymgynghori wrth ichi ateb y cwestiynau.

Eich enw

 

Sefydliad (os yw'n berthnasol):

 

Maint y busnes yn seiliedig ar nifer y cyflogeion (os yw'n berthnasol):

 

Y math o lety ymwelwyr a ddarperir (os yw'n berthnasol):

 

e-bost / rhif ffôn:

 

Eich cyfeiriad:

 

Diben a chwmpas y dreth

Fel yr amlinellwyd, diben yr ardoll ymwelwyr yw galluogi trefniant tecach rhwng ymwelwyr a thrigolion. Byddai'r ardoll yn ffynhonnell refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol ar gyfer ailfuddsoddi'n lleol yn y gwasanaethau a'r nwyddau sy'n rhan annatod o'r profiad i ymwelwyr.

Rydym yn cynnig y byddai ardoll dewisol ar ymwelwyr dros nos yn ffordd o gynhyrchu refeniw i awdurdodau lleol ar gyfer buddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith lleol sy'n rhan annatod o'r profiad i ymwelwyr. Byddai hyn yn cydnabod effaith ymwelwyr mewn rhai rhannau o Gymru ac yn cynnig sylfaen decach ar gyfer ariannu gwasanaethau a seilwaith lleol rhwng trigolion ac ymwelwyr.

Gwyddom fod rhai rhanddeiliaid yn pryderu am effaith ymwelwyr undydd mewn rhai rhannu o Gymru. Byddai'r math o ardoll a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn yn cael ei godi ar ymwelwyr sy'n aros dros nos mewn llety ymwelwyr a osodir yn fasnachol. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i glywed eich barn ar godi ardoll ar ymwelwyr undydd a/neu weithgareddau eraill a sut y gallai hyn weithio'n ymarferol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol ar y mater hwn.

1. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylai awdurdodau lleol gael pwerau disgresiynol i godi ardoll ymwelwyr er mwyn cynnig sylfaen decach ar gyfer ariannu gwasanaethau a seilwaith lleol rhwng trigolion ac ymwelwyr?

 

2. Oes gennych chi farn ynghylch a ddylid codi ardoll ar unrhyw fath arall o weithgaredd yn ogystal ag ymwelwyr dros nos (e.e. ymwelwyr undydd) a, os felly, pe weithgaredd rydych chi'n credu y dylid codi ardoll arno a sut rydych chi'n credu y byddai hyn yn gweithio yng nghyd-destun Cymru?

 

Fframwaith treth (deddfwriaeth)

Rydym yn cydnabod bod angen dull cyson o roi unrhyw ardoll ymwelwyr dewisol a gyflwynir yng Nghymru. Fodd bynnag, nodwn y gall fod sail resymegol gliriach dros wneud mwy o benderfyniadau'n lleol mewn perthynas â rhai agweddau ar y fframwaith treth.

Rydym wedi amlinellu'r agweddau allweddol ar y fframwaith treth yn yr adran hon o'r ymgynghoriad, a chaiff y rhain eu trafod yn fanylach drwy'r ddogfen hon. Yn ystod ein gweithgarwch ymgysylltu hyd yma, nid ydym wedi gweld sail resymegol dros wneud mwy o benderfyniadau'n lleol, ar wahân i benderfyniadau ynglŷn ag amrywio lefel y gyfradd a godir. Rydym yn awyddus i glywed eich barn ynghylch a ddylid gwneud mwy o benderfyniadau'n lleol ar unrhyw agwedd arall ar yr ardoll.

3. Ein barn ni yw y byddai'r fframwaith treth (deddfwriaeth) sy'n nodi sut y byddai'r ardoll yn cael ei roi ar waith a'i weithredu yn sicrhau y caiff yr ardoll ei roi ar waith yn gyson ym mhob awdurdod lleol. Fodd bynnag, ceir rhai agweddau, megis pennu cyfraddau ac esemptiadau a phenderfynu sut y caiff refeniw ei ddefnyddio, lle y gall annibyniaeth leol fod yn fuddiol. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r safbwynt hwn?

 

4. A oes unrhyw agweddau eraill ar y fframwaith treth lle y byddai'n fuddiol cael mwy o annibyniaeth leol? Er enghraifft:
  • Esemptiadau neu ryddhadau
  • Y math o gyfradd
  • Lefel(au) y gyfradd
  • Defnyddio refeniw
  • Gofynion adrodd
  • Beth yw'r rhesymau dros eich ateb?

 

Dyluniad y dreth ac atebolrwydd i'w thalu

Gan y byddai'r ardoll ymwelwyr a gynigir gennym yn daladwy gan ymwelwyr ac yn seiliedig ar aros dros nos (sef y gweithgaredd trethadwy), byddai'n ofynnol i ddarparwyr llety ymwelwyr godi a chasglu'r ardoll. Felly, mae'r math hwn o ardoll yn addas ar gyfer model treth a hunanasesir (yn debyg i TAW).

Gan mai'r darparwr llety ymwelwyr yw'r unig un a fyddai'n gwybod yn union pwy sy'n aros yn y llety dros nos ac, yn y model hwn, yn codi ac yn casglu'r ardoll, rydym yn cynnig y bydd yn gyfrifol yn y pen draw (yn atebol) am dalu'r dreth i'r awdurdod treth.

5. Rydym yn cynnig y byddai'r ardoll yn dreth a hunanasesir ar gyfer darparwyr llety ymwelwyr (yn seiliedig ar nifer yr arosiadau dros nos) ac y byddai'n rhaid iddynt godi'r ardoll ar ymwelwyr am aros dros nos, ei gasglu ganddynt ac yna ei dalu i'r awdurdod treth. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â hyn?

 

6. Pryd y dylid casglu'r ardoll fel rhan o'r broses archebu?

 

7. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno mai'r darparwr llety ymwelwyr a ddylai fod yn gyfrifol yn y pen draw am gasglu'r ardoll a'i dalu i'r awdurdod treth?

 

Ymwelwyr sydd o fewn y cwmpas

Mae costau cyhoeddus yn gysylltiedig â derbyn ymwelwyr, beth bynnag fo natur eu hymweliad. Rydym yn cynnig y dylid ystyried bod yr holl ymwelwyr sy'n aros dros nos mewn llety ymwelwyr a osodir yn fasnachol (os nad ydynt wedi'u hesemptio) o fewn cwmpas yr ardoll, gan gynnwys y rhai sy'n teithio am resymau heblaw gwyliau.

8. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylid ystyried bod yr holl ymwelwyr sy'n aros mewn llety ymwelwyr a osodir yn fasnachol o fewn cwmpas yr ardoll (oni bai eu bod wedi'u hesemptio fel arall)?

 

Esemptiadau

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y dylai fod esemptiadau dan amgylchiadau lle y byddai codi ardoll yn anghymesur i gyd-destun a natur ymweliad unigolyn. Yn aml, bydd y mathau hyn o arosiadau yn digwydd o reidrwydd yn hytrach nag o ddewis ac, fel arfer, ni fydd gan yr unigolyn arian (neu ddim digon o arian) i dalu ardoll, felly byddai'n anghymesur codi ardoll.

Hoffem gyfyngu unrhyw esemptiadau i amgylchiadau penodol lle y byddai'n anghymesur codi ardoll. Fodd bynnag, rydym yn awyddus i ddeall a fyddai'r rhesymeg hon yn berthnasol i unrhyw fath arall o arhosiad ac a ddylem ystyried rhoi esemptiadau ar waith mewn unrhyw senario arall.

Fel yr amlinellwyd yn yr adran ar fframwaith treth, ein barn ni yw y dylai'r awdurdodau lleol sy'n dewis cyflwyno ardoll ymwelwyr ei roi ar waith yn gyson. Felly, rydym yn cynnig y byddai unrhyw esemptiadau yn fandadol ac wedi'u nodi mewn deddfwriaeth. Gall fod amgylchiadau nad ydym yn ymwybodol ohonynt lle y gellid cyfiawnhau rhoi pwerau disgresiynol i esemptio i awdurdod lleol ac rydym yn awyddus i glywed barn ymatebwyr ar y mater hwn.

9. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r esemptiadau arfaethedig canlynol:

a. Arosiadau o fewn safleoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr (lle mae arosiadau byrhoedlog yn rhan hanfodol o'r diwylliant)

 

b. Arosiadau a drefnir gan awdurdodau lleol wrth iddynt gyflawni eu swyddogaethau statudol (megis dyletswyddau a gyflawnir fel rhan o Ddeddf Tai (Cymru) 2014)  (e.e. darparu llety dros dro i bobl ddigartref)

 

c. Arosiadau a drefnir drwy'r Swyddfa Gartref wrth iddi gyflawni ei swyddogaethau statudol mewn perthynas â cheisiadau am loches a rhoi llety dros dro i ffoaduriaid

 

d. Arosiadau mewn llety a ddarperir gan elusennau a sefydliadau nid-er-elw ar sail anfasnachol (e.e. at ddibenion lloches, seibiant neu noddfa – llochesi i bobl ddigartref)

 

10. A oes unrhyw esemptiadau eraill y dylem eu hystyried? Dewiswch bob un a ddylai fod yn gymwys yn eich barn chi

 

11. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno y dylai unrhyw esemptiadau gael eu sefydlu o fewn fframwaith mandadol a nodir mewn deddfwriaeth?

 

12. Fel y nodir yn yr ymgynghoriad, credwn y dylai unrhyw esemptiadau gael eu rhoi ar waith yn gyson ym mhob awdurdod lleol. Fodd bynnag, mae'n bosibl bod amgylchiadau nad ydym yn ymwybodol ohonynt lle y gall fod angen i awdurdod lleol gael pwerau disgresiynol i esemptio. A ddylai awdurdodau lleol gael pwerau disgresiynol i esemptio?

 

Mathau o lety sydd o fewn y cwmpas

Mae egwyddor tegwch yn bwysig wrth roi ardoll ymwelwyr ar waith. Byddai'r ardoll a gynigir gennym yn daladwy gan ymwelwyr ac yn cael ei gasglu gan ddarparwyr llety ymwelwyr. Gan y byddai pob ymwelydd (heblaw unrhyw rai a fydd wedi'u hesemptio) yn atebol i dalu'r ardoll, rydym yn cynnig felly y byddai pob darparwr llety ymwelwyr yn gyfrifol am godi a chasglu'r ardoll beth bynnag fo'i faint neu raddfa.

Fel yr amlinellwyd, yr hyn a ffefrir gennym yw i bob darparwr llety ymwelwyr fod o fewn cwmpas yr ardoll. Fodd bynnag, rydym am ystyried safbwyntiau ynghylch a ddylai fod unrhyw eithriadau i hyn, er enghraifft trothwy yn seiliedig ar ddiwrnodau gosod lle y dylid ystyried bod llety o fewn cwmpas yr ardoll, neu'n seiliedig ar isafswm pris llety neu ystafell, neu elw neu drosiant y darparwr llety ymwelwyr.

13. Er mwyn sicrhau tegwch, cynigir y dylid ystyried bod pob llety ymwelwyr a osodir yn fasnachol o fewn cwmpas yr ardoll hwn. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â hyn?

 

14. A ddylai unrhyw lety ymwelwyr a osodir yn fasnachol gael ei esemptio rhag codi a chasglu ardoll ymwelwyr?

 

Cynigion Trwyddedu Statudol

Hoffem glywed eich barn ynghylch sut y gall cynllun trwyddedu statudol helpu i roi ardoll ymwelwyr ar waith. Fel y nodwyd eisoes, gofyniad ar wahân i gofrestru at ddibenion treth, neu beidio â chofrestru o gwbl fyddai'r opsiynau amgen.

15. A ddylai rhestr gynhwysfawr o ddarparwyr llety ymwelwyr fod ar gael i'r awdurdod treth er mwyn helpu i weinyddu'r ardoll, yn hytrach na bod dim gofynion cofrestru ar waith?

 

16. A fyddai defnyddio'r cynllun trwyddedu statudol arfaethedig (yn hytrach na chreu cynllun cofrestru pwrpasol ar gyfer y dreth) yn cynnig dull priodol i awdurdod lleol sicrhau bod ganddo restr gynhwysfawr o ddarparwyr llety ymwelwyr ac y byddai'r wybodaeth hon yn helpu i roi ardoll ymwelwyr ar waith?

 

Math o gyfradd

Mae manteision ac anfanteision yr opsiynau ar gyfer math o gyfradd wedi cael eu crynhoi yn yr adran hon o'r ymgynghoriad. Nid ydym wedi dod o hyd i fath amlwg o gyfradd a ffefrir gennym, ac rydym yn awyddus i glywed eich barn ar yr hyn a fyddai'n gweithio orau i Gymru.

Fel yr amlinellwyd yn yr adran ar fframwaith treth yn yr ymgynghoriad, byddai'n well gennym pe bai pob awdurdod lleol yn defnyddio'r un math o gyfradd er mwyn sicrhau y caiff yr ardoll ymwelwyr ei roi ar waith yn gyson. Rydym yn cynnig y byddai'r elfen hon yn cael ei phennu yn y fframwaith treth, heb opsiwn i wneud penderfyniadau yn lleol. Nid oeddem yn gweld sail resymegol dros amrywio'r math o gyfradd yn lleol yn ystod ein gweithgarwch ymgysylltu, ond mae croeso i chi dynnu sylw at unrhyw resymeg dros hyn yn eich ymateb os credwch y byddai'n fuddiol pe mai penderfyniadau ynghylch y math o gyfradd yn cael eu gwneud yn lleol.

Mae crynodeb cychwynnol o'r effeithiau yn dibynnu ar y math o gyfradd a ddewisir wedi cael ei gynnwys yn yr adran flaenorol. Mae ein hasesiad effaith rheoleiddiol rhannol yn archwilio effeithiau posibl y dewisiadau dylunio amrywiol mewn mwy o fanylder. Fodd bynnag, hoffem ddeall a oes unrhyw effeithiau nad ydym wedi'u hystyried o bosibl, neu a oes gennych ragor o wybodaeth am yr effeithiau posibl. Er enghraifft, effeithiau ynghylch: adnoddau ac amser staff, costau ariannol, costau gweinyddol eraill, yr amser a'r costau y byddai eu hangen i ddiweddaru unrhyw systemau digidol, newidiadau tymhorol i brisiau, ac unrhyw effeithiau eraill y dylem eu hystyried.

17. Pa un o'r canlynol fyddai'r math mwyaf priodol o gyfradd ar gyfer yr ardoll hwn yn eich barn chi?

 

18. Rydym yn cynnig y dylid defnyddio'r un math o gyfradd ym mhob awdurdod lleol sy'n defnyddio ardoll ymwelwyr, yn hytrach na bod hyn yn cael ei benderfynu'n lleol. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â’r dull gweithredu hwn?

 
19. A oes effeithiau ychwanegol y dylem eu hystyried ar sail y math o gyfradd a ddewisir (er enghraifft, effeithiau ynghylch: adnoddau ac amser staff, costau ariannol, costau gweinyddol eraill, yr amser a'r costau y byddai eu hangen i ddiweddaru unrhyw systemau digidol, newidiadau tymhorol i brisiau, ac unrhyw effeithiau eraill y dylem eu hystyried)?

i. Ardoll fesul noson, fesul ystafell/llety

 

ii. Ardoll fesul person, fesul noson

 

iii. Canran o'r tâl am lety

 

Cyfradd drethadwy

Rydym yn cydnabod y dylai unrhyw gyfradd a bennir fod yn gymesur er mwyn osgoi unrhyw effeithiau andwyol ar ymddygiad, megis unigolion yn dewis peidio ag ymweld â Chymru. Mae'n bwysig penderfynu ar ba lefel i bennu'r gyfradd hon, ac mae'r ffactorau y dylid eu hystyried wrth wneud y penderfyniad hwn yn bwysig hefyd.

Mae'r rhan fwyaf o ardaloedd sy'n defnyddio ardollau ymwelwyr yn dewis amrywio'r tâl yn unol â math/ansawdd neu gost y llety. Mae hyn yn sicrhau lefel o gymesuredd i unrhyw gyfradd a bennir ac yn helpu i sicrhau y caiff y dreth ei rhannu mewn ffordd flaengynyddol rhwng ymwelwyr, yn seiliedig ar y gallu i dalu.

Fel man cychwyn, er mwyn sicrhau symlrwydd a chysondeb o ran rhoi'r ardoll ar waith, rydym yn cynnig defnyddio'r un gyfradd neu gyfraddau er mwyn rhoi'r ardoll ar waith yn gyson yn y gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol sy'n dewis ei ddefnyddio. Rydym yn cydnabod y byddai'r gyfradd yn cael ei phennu ar adeg mewn amser ac o fewn cyd-destun penodol. Bydd amgylchiadau ac economïau yn amrywio dros amser ac felly byddai angen pwynt adolygu ar gyfer unrhyw gyfradd a bennir er mwyn sicrhau ei bod yn dal yn briodol. Hoffem ddeall eich barn ar yr hyn a fyddai'n gap priodol lle na fyddai ardoll ymwelwyr yn cael ei godi mwyach.

20. Wrth bennu cyfradd, pa ffactorau a thystiolaeth y dylid eu hystyried er mwyn sicrhau bod cyfradd yr ardoll yn briodol? Er enghraifft, gallai hyn gynnwys elastigeddau pris ac incwm, galw tymhorol (ac felly newidiadau mewn prisiau) ac amgylchiadau economaidd ehangach.

 

21. Wrth benderfynu pa gyfradd (neu gyfraddau) i'w phennu (neu eu pennu), a ddylid ystyried cyfradd sy'n gymesur â chost (neu fath/ansawdd) llety?

 

22. Ar ôl sawl noson yn olynol y byddai'n briodol peidio â chodi'r ardoll ar unrhyw nosweithiau dilynol?

 

23. A ddylai'r un gyfradd neu gyfraddau fod yn gymwys ym mhob ardal awdurdod lleol yn hytrach na bod hyn yn cael ei benderfynu'n lleol?

 

24. Pe bai'r gyfradd yn cael ei phennu'n lleol, a ddylai'r un gyfradd gael ei chodi beth bynnag fo'r lleoliad o fewn yr ardal awdurdod lleol?

 

25. Pe bai'r gyfradd yn cael ei phennu'n lleol, a ddylid pennu cap neu ystod ar gyfer lefel y gyfradd y gellir ei chodi?

 

26. Pa mor aml y dylid adolygu unrhyw gyfradd arfaethedig ar gyfer ardoll ymwelwyr?

 

Cadw cofnodion a chyflwyno ffurflenni

Mae'r math o ardoll a gynigir gennym yn seiliedig ar fodel treth a hunanasesir. Mae hyn yn golygu y bydd angen i fusnesau gadw cofnodion penodol er mwyn dangos cywirdeb unrhyw ffurflen dreth a hunanasesir. Mae hyn yn sicrhau uniondeb y system dreth drwy alluogi'r awdurdod treth i gadarnhau cywirdeb unrhyw daliadau a cheisio atal unrhyw un rhag osgoi neu efadu ei rwymedigaethau treth yn fwriadol.

Rydym yn cydnabod y byddai rhoi ardoll ar waith yn arwain at gostau gweinyddol i ddarparwyr llety ymwelwyr, gan gynnwys costau uwch yn sgil y canlynol: amser staff i weinyddu'r gwaith cadw cofnodion ychwanegol, newidiadau i systemau TG, newidiadau cyfrifyddu neu newidiadau i brosesau gweithredu eraill. Rydym yn cydnabod y bydd cyfle wrth ddylunio'r ardoll i sicrhau cyn lleied â phosibl o faich gweinyddol ar ddarparwyr llety ymwelwyr. Rydym yn awyddus i ddeall y costau posibl mewn mwy o fanylder er mwyn helpu i lywio'r broses o ddylunio'r polisi.

Byddai effaith ffurflenni a hunanasesir yn amrywio yn dibynnu ar y trefniadau presennol, seilwaith, a'r systemau y mae busnesau eisoes wedi'u rhoi ar waith er gyfer rheoli eu cyllid. Rydym yn ffafrio osgoi cael un adeg allweddol ar ddiwedd y flwyddyn i fusnesau a'r awdurdod treth. Hefyd, byddai cyflwyno ffurflenni yn amlach yn golygu y byddai modd cadw data mwy cyfredol, y byddai mwy o amser i ddatrys gwallau ac y byddai data'n cael eu cofnodi'n fwy prydlon at ddibenion gweinyddol. Felly, mae'n debygol y byddai cyflwyno ffurflenni yn amlach yn fwy buddiol i'r gwaith o weinyddu'r ardoll i bawb dan sylw. Byddai hyn yn golygu bod modd rhoi mwy o gymorth i fusnesau drwy gydol y flwyddyn wrth weinyddu'r ardoll. Ar y llaw arall, gall cyflwyno ffurflenni yn amlach fod yn feichus i rai busnesau.

27. Yn Nhabl 1, rydym wedi amlinellu'r gofynion cadw cofnodion posibl i fusnesau yn seiliedig ar wahanol fathau o gyfraddau. Er mwyn ein helpu i ddeall y gofynion cadw cofnodion posibl i fusnesau yn fanylach, a fyddech cystal ag amlinellu pa wybodaeth y byddai angen i ddarparwyr llety ymwelwyr ei chasglu a'i chadw yn eich barn chi ar gyfer:

 

28. Rydym yn awyddus i ddeall effaith casglu a chofnodi'r wybodaeth a nodir yn Nhabl 1 (ac unrhyw wybodaeth arall a nodwyd gannych mewn ymateb i'r cwestiwn blaenorol) er mwyn helpu i hunanasesu'r atebolrwydd i dalu'r dreth. Beth fyddai effeithiau casglu'r wybodaeth hon ar adnoddau (amser staff a'r costau sy'n gysylltiedig â gwneud newidiadau i unrhyw brosesau a systemau)?

 

Sut y gellid casglu'r data hyn (a oes proses neu system eisoes ar waith y gellid ei defnyddio fel rhan o'r broses archebu)?

 

29. Pa mor aml y dylai fod yn ofynnol i ddarparwyr llety ymwelwyr gyflwyno ffurflenni treth hunanasesu ar gyfer ardoll ymwelwyr, gan nodi y gall fod modd caniatáu eu cyflwyno'n amlach pe bai hynny'n addas i'r busnes?

 

Gorfodi a chydymffurfio

Rydym yn cydnabod bod y rhan fwyaf o drethdalwyr yn ceisio cyflawni eu rhwymedigaethau ac yn parchu rheolaeth y gyfraith ynghylch trethi. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau effeithiolrwydd unrhyw system dreth, mae'n ofynnol i'r awdurdod treth gael y pwerau digonol i blismona'r system er mwyn atal pobl rhag osgoi, efadu neu dwyllo pwrs y wlad a chanfod y rhai sy'n ceisio gwneud hynny. Rydym wedi amlinellu'r angen am bwerau i ymchwilio a rhoi cosbau sifil er mwyn gorfodi ardoll ymwelwyr yn effeithiol.

30. Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r ardoll, mae'n debygol y byddai angen i'r awdurdod treth gael y pwerau gorfodi canlynol. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â'r pwerau a restrir?

i. Pwerau arolygu a gwybodaeth sifil, gan gynnwys pwerau i ymchwilio i ffurflenni treth, archwilio cofnodion a gedwir gan ddarparwyr llety ymwelwyr, ac arolygu safleoedd 

 

ii. Pwerau sifil i godi llog, rhoi cosbau ac adennill treth heb ei thalu, os bydd darparwr llety ymwelwyr yn peidio â chyflawni ei rwymedigaethau statudol mewn perthynas â'r ardoll ymwelwyr.

 

iii. Pwerau disgresiynol i ryddhau o ddyled, er enghraifft y gallu i leihau dyled i ddim neu i beidio â rhoi cosb dan amgylchiadau penodol

 

Defnyddio refeniw

Bwriedir i refeniw a godir drwy ardoll ymwelwyr gael ei ailfuddsoddi'n lleol er mwyn cefnogi'r economi ymwelwyr leol. Rydym yn cydnabod y bydd y ffordd orau o wario refeniw o unrhyw ardoll ymwelwyr yn amrywio fesul ardal leol, a bydd blaenoriaethau gwario a'r galw yn amrywio fesul lleoliad. Hoffem glywed eich barn ar y ffordd y dylid defnyddio refeniw yn eich ardal leol er budd yr economi ymwelwyr leol.

Hefyd, nodwn fod clustnodi (neilltuo) wedi codi'n barhaus yn ystod ein gweithgarwch ymgysylltu. Fel y pwysleisiwyd, nid ydym yn ffafrio clustnodi oherwydd gall gyfyngu ar y gallu i wneud penderfyniadau yn lleol a phennu blaenoriaethau gwario lleol y mae swyddogion a etholwyd yn lleol yn atebol amdanynt.

31. Sut y dylai refeniw a godir drwy ardoll ymwelwyr gael ei wario? Beth yw'r rhesymau dros eich ateb?

 

32. A ddylai'r refeniw a godir drwy ardoll ymwelwyr gael ei neilltuo (ei glustnodi)?

 

Tryloywder ac ymgysylltu

Mae awdurdodau lleol mewn sefyllfa dda i ymgysylltu ar lefel fwy leol wrth ystyried y ffordd orau o ddefnyddio refeniw o ardoll ymwelwyr yn eu hardaloedd. Gall cydberthnasau, partneriaethau a fforymau sydd eisoes yn bodoli fod yn fodd i ymgysylltu’n lleol.

Hefyd, mae trefniadau adrodd presennol awdurdodau lleol mewn perthynas â chyllid yn cynnig ffordd o adrodd ar yr ardoll ymwelwyr. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod, gan mai'r bwriad yw i'w ardoll fod o fudd i'r economi ymwelwyr, y byddai adroddiadau mwy pwrpasol a gwerthusiadau lleol yn gwella ymwybyddiaeth o fanteision ardoll a thryloywder ynglŷn â'r ffordd y caiff ei ddefnyddio. Rydym yn cynnig y byddai gofynion adrodd yn cael eu safoni rhwng pob awdurdod lleol a'u pennu drwy'r fframwaith treth (fel yr amlinellwyd yn yr adran ar fframwaith treth). Mae hyn yn sicrhau dull gweithredu cyson.

Gan ei bod yn annhebygol y bydd ymwelwyr wedi talu'r math hwn o dreth o'r blaen yn y DU, byddai'n ofynnol bod gwybodaeth ar gael yn hawdd er mwyn i ymwelwyr ddeall dibenion a manteision ardoll ymwelwyr a godir yn lleol, a'r ffordd y caiff ei ddefnyddio.

33. Pa weithgarwch ymgysylltu lleol a ddylai ddigwydd wrth benderfynu sut y caiff refeniw ei ddyrannu?

 

34. A ddylai fod adroddiad blynyddol ar wahân sy'n nodi'r refeniw a gasglwyd a manteision ardoll ymwelwyr ar lefel leol?

 

35. Rydym yn cynnig y byddai trefniadau adrodd ar gyfer awdurdodau lleol yn cael eu nodi yn y fframwaith treth er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithredu'n gyson. Ydych chi'n cytuno â’r dull gweithredu hwn?

 

36. Pa wybodaeth a ddylai fod ar gael i ymwelwyr am yr ardoll?

 

Amserlenni gweithredu

37. Rydym yn cynnig y byddai awdurdodau lleol yn gallu penderfynu drwy brosesau llywodraethu lleol a fyddant yn cyflwyno ardoll ymwelwyr ai peidio. Ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â’r dull gweithredu hwn?

 

A ddylid cynnal ymgyngoriadau lleol cyn cyflwyno ardoll ymwelwyr?

 

38. Pa drefniadau pontio y dylid eu rhoi ar waith ar gyfer llety a archebwyd cyn i awdurdod lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr? Beth yw'r rhesymau dros eich ateb?

 

Sut y gellid dylunio'r trefniadau pontio mewn ffordd sy'n atal achosion o osgoi neu efadu trethi yn fwriadol?

 

Modelau gweithredu

Rydym yn cynnig y bydd cyfle i weithio mewn partneriaeth rhwng awdurdodau treth canolog a lleol wrth roi'r ardoll arfaethedig hwn ar waith. Gallai hyn gyfuno cryfderau modelau gweithredu lleol a chanoledig. Rydym yn ceisio barn ar y ffordd orau o weithredu'r ardoll ymwelwyr arfaethedig ac a ddylai fod rôl i awdurdod canolog ei peidio.

39. Beth yw'r ffordd orau o roi'r ardoll ymwelwyr arfaethedig ar waith a'i weinyddu?

 

40. Beth fyddai manteision ac anfanteision pob opsiwn?

 

Y Gymraeg

41. Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai'r cynigion i gyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

 

42. Esboniwch hefyd sut, yn eich barn chi, y gallai'r polisi arfaethedig ar gyfer cyflwyno ardoll ymwelwyr gael ei lunio neu ei newid er mwyn sicrhau effeithiau cadarnhaol neu effeithiau cadarnhaol cynyddol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac atal unrhyw effeithiau andwyol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

 

43. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol drwy'r ymgynghoriad hwn. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi ymdrin â nhw'n benodol, defnyddiwch y lle hwn i'w nodi: