Cyn llenwi'r ffurflen hon, gofalwch eich bod wedi cofrestru eich system garthion breifat gyda ni. I'r rhan fwyaf o bobl, dim ond cofrestru fydd angen i chi ei wneud. Dim ond mewn rhai amgylchiadau y bydd angen i chi lenwi'r ffurflen hon, er enghraifft, os yw eich system garthion mewn, neu yn agos at ardal warchodedig. Byddwn yn dweud wrthych pan fyddwch yn cofrestru a fydd angen i chi gwblhau'r cais ychwanegol hwn.