Mae'n rhaid cwblhau'r ffurflen hon i ategu Trwydded Datblygu Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop.

Os oes angen caniatâd cynllunio neu gydsyniadau eraill, neu eu bod eisoes wedi'u rhoi, yna mae'n rhaid i Swyddog Cynllunio'r awdurdod lleol perthnasol gwblhau'r ddogfen ymgynghori hon a rhaid i'r copi wedi'i lofnodi (a fydd yn cael ei anfon trwy e-bost atoch chi ar ôl ei gwblhau) gael ei ddychwelyd i'r ymgeisydd cyn cael ei gyflwyno gan yr ymgeisydd i Corff Adnoddau Naturiol Cymru, a elwir fel arall yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

1. Enw Safle

 

2. Awdurdod Cynllunio Lleol (LPA)

 

3. Rhif Cyfeirnod Cais Cynllunio

 
Os ydych yn cael problemau yn llenwi’r ffurflen yma yna cysylltwch â CNC yn y cysylltiadau a ddarperir isod:

specieslicence@naturalresourceswales.gov.uk

Ffôn:  03000 65 3000
Sicrhewch eich bod yn cwblhau'r ddogfen hon ar ôl gweld manylion y gweithgaredd/datblygiad arfaethedig. Noder y cyfeirir at y gweithgaredd/datblygiad a ddisgrifir fel 'y gweithgaredd arfaethedig' o hyn ymlaen.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru fel yr awdurdod trwyddedu perthnasol o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, angen eich cymorth i bennu’r cais am drwydded yma. 
Heb ymateb yr Awdurdod Cynllunio i ddogfen ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru mae’n annhebygol y bydd yn gallu pennu’r cais am drwydded. Yn y fath amgylchiadau, ni fydd trwydded yn cael ei dyroddi ac ni all y gweithgaredd arfaethedig fynd ymlaen.

Cyn i CNC ddyroddi trwydded rhaid iddynt fod yn fodlon bod y gweithgaredd arfaethedig yn un ar gyfer y pwrpasau canlynol:
  • Rheoliad 55(2)(e) ar gyfer y pwrpas o ddiogelu iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch y cyhoedd neu resymau gorfodol eraill sydd o fudd gor-redol i’r cyhoedd yn cynnwys y rheiny o natur gymdeithasol neu economaidd a chanlyniadau llesol o bwysigrwydd pennaf am yr amgylchedd; neu
  • Rheoliad 55(2)(f) ar gyfer y pwrpas o atal y lledaeniad o glefyd; neu
  • Rheoliad 55(2)(g) ar gyfer y pwrpas o atal niwed difrifol i anifeiliaid, bwyd i anifeiliaid, cnydau, llysiau, ffrwythau, coed ar eu tyfiant neu unrhyw ffurf arall o eiddo neu i bysgodfeydd;
Gyda’r amod ei fod yn ateb y gofynion canlynol:

Rheoliad 55(9)(a) nad oes yna ddewis boddhaol arall a
Rheoliad 55(9) (b) na fydd y weithred a awdurdodwyd yn niweidiol i’r gynhaliaeth o boblogaeth y rhywogaethau sydd mewn statws cadwraeth ffafriol yn eu hystod naturiol.
Nodiadau i’r Awdurdod Cynllunio Lleol.

Mae Rheoliad 9(3) o’r Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 yn gofyn bod yr holl Awdurdodau  Cynllunio Lleol wrth ymarfer eu gweithredoedd gyda golwg ar y darpariaethau o’r Gyfarwyddeb Gynefinoedd cyn belled ag efallai y byddant yn cael eu heffeithio gan y gweithredoedd hynny. Ble mae CNC yn derbyn cais am drwydded oddi wrth ddatblygwr am weithgaredd arfaethedig a fydd yn effeithio Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop, mae’n angenrheidiol gofyn am wybodaeth oddi wrth Awdurdod Cynllunio Lleol er mwyn ystyried pa un ai a ydy’r gofynion trwyddedu yn cael eu diwallu.