Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am drwydded rheolau safonol newydd er mwyn gollwng dŵr o gylched oeri neu gyfnewidydd gwres i ddŵr wyneb, neu addasu trwydded sydd gennych eisoes er mwyn gwneud y gweithgaredd hwn.

Os ydych yn gollwng dŵr o eiddo domestig unigol, efallai na fydd angen trwydded arnoch os ydych yn cydymffurfio â'n Penderfyniad Rheoleiddiol –  https://www.gov.uk/guidance/open-loop-heat-pump-systems-permits-consents-and-licences#surface-water-open-loop-heat-pump-systems-for-a-single-domestic-property (bydd yn agor mewn ffenestr newydd).

Bydd y drwydded rheolau safonol SR2010 Rhif 2 hon yn eich caniatáu i ollwng hyd at 100 metr ciwbig o ddŵr o gylched oeri neu gyfnewidydd gwres i ddyfroedd wyneb croyw mewndirol, dyfroedd arfordirol a dyfroedd tiriogaethol perthnasol yn ddyddiol ( fel y diffinnir yn adran 104 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991), cyn belled â'ch bod yn cydymffurfio â'r amodau a restrir isod.

Os na allwch gydymffurfio â'r amodau hyn, bydd angen i chi wneud cais am drwydded bwrpasol gan ddefnyddio'r ffurflen hon.

Mae amodau'r drwydded rheolau safonol SR2010 Rhif 2 fel a ganlyn:

1. Ni ddylai'r gollyngiad gynnwys unrhyw gemegau sy'n llygru

2. Dylai'r newid yn y tymheredd rhwng y fewnfa a'r allfa fod yn llai nag wyth gradd Celsius

3. Ni ddylai tymheredd yr allfa fod yn uwch na 25 gradd Celsius.

4. Rhaid gollwng i'r un corff dŵr ag y tynnwyd y dŵr, ond nid o fewn 200 metr i ollyngiad oeri neu wresogi arall.

5. Ni ddylid gollwng i ddŵr croyw o fewn 500 metr i fyny'r afon o'r canlynol:
dŵr pysgod cragen dynodedig,
Safle Ewropeaidd,
Safle Ramsar,
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA),
Gwarchodfa Natur Genedlaethol,
Gwarchodfa Natur Leol

6. Ni ddylid gollwng i unrhyw gorff ddŵr a nodwyd i gynnwys rhywogaethau a warchodir

7. Ni ddylid gollwng o fewn 100 metr i safle Bywyd Gwyllt lleol. Yn ogystal â hyn,

8. Ni ddylid gollwng i gwrs dŵr ar bwynt lle mae eogiaid yn silio.

Ar gyfer safle mewn dŵr llanw, mae '500 metr i fyny'r afon' yn golygu o fewn 500 metr i'r
pellter byrraf dros ddŵr i unrhyw gyfeiriad o'r ffin agosaf i unrhyw un o'r safleoedd hyn. Mae'r cyfyngiad hwn ond yn berthnasol i safleoedd cadwraeth sy’n seiliedig ar ddŵr ac sydd wedi'u cysylltu i'r dŵr a dderbynnir i lawr yr afon o'r man gollwng.