Iaith:

Ymgynghoriad ar y rheoliadau ardrethu annomestig drafft i fynd i'r afael â thwyll ac osgoi talu trethi

 

C1.A yw Rheoliad 3 o'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder ynghylch pa drydydd partïon y mae'r rheoliadau'n gymwys iddynt? Os nad yw, sut y gellir ei wella? 

 

C2. A yw Rheoliad 4 o'r Rheoliadau drafft yn rhoi eglurder ynghylch y ffordd y gellir cyflwyno hysbysiadau i drydydd partïon? Os nad yw, sut y gellir ei wella?

 

C3. A oes unrhyw faterion yn codi o ran gweinyddu a gorfodi'r Rheoliadau drafft?

 

C4. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill am y Rheoliadau drafft?

 

C5. Hoffai Llywodraeth Cymru wybod eich barn am yr effeithiau y byddai'r cynigion hyn yn eu cael ar y Gymraeg, ac ar y canlynol yn benodol:  
ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg; ac
ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi?  Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

 

C6. Eglurwch hefyd sut y gellid llunio neu newid y Rheoliadau drafft er mwyn:
cael effaith gadarnhaol neu gynyddu’r effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a
osgoi unrhyw effaith niweidiol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

 

C7. Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydyn ni wedi mynd i'r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i wneud hynny: