Adroddiad ar Gamau Gweithredu a Gymerwyd o dan Drwydded – Trwyddedau datblygu rhywogaethau a warchodir gan Ewrop ar gyfer pob rhywogaeth o ystlumod, y fadfall ddŵr gribog, y pathew, y dwrgi, llyffant y twyni, madfall y tywod a phlanhigion.

Ar gyfer trwyddedau a roddir o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, Rheoliad 55 (2) (e), gwarchod iechyd y cyhoedd neu ddiogelwch cyhoeddus neu resymau hanfodol eraill sydd o’r budd mwyaf i’r cyhoedd, gan gynnwys rhesymau o natur gymdeithasol neu economaidd a chanlyniadau buddiol o'r pwysigrwydd mwyaf i'r amgylchedd.
Cyn cwblhau’r ffurflen:

1. Un o amodau eich trwydded (amod 11) yw eich bod yn rhoi adroddiad i Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n nodi manylion unrhyw gamau gweithredu a gymerwyd dan y drwydded. Rhaid cwblhau’r adroddiad hwn hyd yn oed os na chymerwyd unrhyw gamau gweithredu, a rhaid iddo gael ei anfon yn ôl i Cyfoeth Naturiol Cymru cyn pen 4 wythnos i’r dyddiad y daw’r drwydded i ben.

2. Mae methu â chwblhau a chyflwyno'r ffurflen hon yn gyfystyr â thorri amodau eich trwydded. Mae'n drosedd o dan Reoliad 60(1) i dorri amod trwydded.

3. Caiff yr adroddiad ei ddefnyddio i ddarparu gwybodaeth gryno i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) a'r Comisiwn Ewropeaidd ynghylch math a nifer y trwyddedau a roddir, a'r gwaith gwirioneddol a wneir o dan drwydded.

Gellir hefyd defnyddio'r data a gesglir o adroddiadau am drwyddedau at ddibenion monitro gwyddonol, a gellir ei rannu â'r awdurdod cynllunio lleol. Cysylltwch â ni os oes gennych bryderon am sut y caiff yr wybodaeth yr ydych yn ei darparu ei defnyddio.

4. Gall Cyfoeth Naturiol Cymru gadw a defnyddio'r wybodaeth bersonol yn yr adroddiad trwydded hwn yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, ac yn unol â darpariaethau'r drwydded berthnasol y cafodd gwaith casglu’r cofnodion bioamrywiaeth hyn ei awdurdodi yn unol â hi.

5. Dim ond deiliad y drwydded, ecolegydd enwebedig, neu asiant(au) achrededig ddylai gwblhau'r ffurflen adroddiad hon, yn ôl yr hyn a restrir ar y drwydded.