Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi
Cwestiwn 1: A yw'r canllawiau drafft ‘Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi’ yn rhoi gwybodaeth addas, ddefnyddiol ac ymarferol i arweinwyr, athrawon ac ymarferwyr eraill mewn ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau addysg heblaw yn yr ysgol er mwyn galluogi ysgolion a chyrff llywodraethu i wella lefelau ymgysylltu a phresenoldeb dysgwyr?
Cwestiwn 2: A yw'r canllawiau drafft ‘Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi’ yn amlinellu cyfrifoldeb cyfreithiol yr ysgol a'r llywodraethwyr yn glir?
Cwestiwn 3: A yw'r canllawiau drafft ‘Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi’ yn amlinellu cyfrifoldebau'r awdurdod lleol yn glir?
Cwestiwn 4: A oes ymdriniaeth ddigonol o'r ffactorau sy'n cyfrannu a'r nifer mawr o resymau posibl dros absenoldeb?
Cwestiwn 5: A yw dysgwyr â nodweddion gwarchodedig wedi'u cynnwys?
Cwestiwn 6: A yw'r canllawiau drafft ‘Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi’ yn rhoi digon o wybodaeth er mwyn i rieni a gofalwyr ddeall eu cyfrifoldeb statudol am sicrhau bod eu plant o oedran ysgol gorfodol yn cael addysg amser llawn?
Cwestiwn 7: A yw'r canllawiau drafft ‘Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi’ yn cael eu hesbonio'n glir? Os nad ydynt, pa feysydd y gellid eu gwella a pham? A oes agweddau rydych yn eu hoffi'n benodol, ac os felly, pam?
Cwestiwn 8: A yw'r canllawiau drafft ‘Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi’ yn hawdd eu defnyddio? Os nad ydynt, pa feysydd y gellid eu gwella a pham? A oes agweddau rydych yn eu hoffi'n benodol, ac os felly, pam?
Cwestiwn 9: Ar raddfa o 1 i 5 (lle mae 1 yn golygu ‘ddim o gwbl’ ac mae 5 yn golygu ‘defnyddiol iawn’) pa mor ddefnyddiol yw'r canllawiau drafft ‘Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi’ yn eich barn chi? A oes unrhyw welliannau yr hoffech eu gweld?
Cwestiwn 10: A yw'r canllawiau drafft ‘Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi’ yn rhoi gwybodaeth ddigonol mewn perthynas â'r canlynol:
i. esbonio'r egwyddorion a'r dulliau gweithredu y dylid eu mabwysiadu i wella lefelau ymgysylltu a phresenoldeb dysgwyr?
ii. nodi'r ffactorau sy'n cyfrannu a all effeithio ar bresenoldeb?
iii. cyfeirio at ragor o wybodaeth ac arferion da?
iv. cofnodi a dadansoddi data ar bresenoldeb?
v. ymgysylltu â theuluoedd a chymorth amlasiantaethol?
vi. rheoli absenoldeb yn ffurfiol?
Cwestiwn 11: At ddibenion ystadegol, mae absenoldeb cyson wedi ei ddiffinio yng Nghymru fel absenoldeb am dros 20% o sesiynau hanner diwrnod mewn ysgolion. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y dylid diwygio'r diffiniad ystadegol o absenoldeb cyson i dros 10% o sesiynau, sef y diffiniad sy'n cael ei ddefnyddio yn Lloegr ar hyn o bryd. Ydych chi'n cytuno ai peidio â'r cynnig hwn a pham?
Cwestiwn 12: Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r canllawiau drafft ‘Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi’ yn eu cael ar yr iaith Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Pa effeithiau y byddai’n eu cael, yn eich barn chi? Sut y gellid cynyddu’r effeithiau cadarnhaol a lliniaru’r effeithiau negyddol?
Sylwadau ategol:
Cwestiwn 13: Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi’n credu gallai’r canllawiau drafft ‘Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi’ gael eu llunio neu eu haddasu er mwyn: cael effeithiau cadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Sylwadau ategol:
Cwestiwn 14: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma: